Teyrnged i fenyw wedi gwrthdrawiad beic a lori Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Nicolette LFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae teulu menyw 52 oed a fu farw wedi gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin wedi rhoi teyrnged iddi.

Bu farw Nicolette Lewis, a oedd ar feic ar y pryd, mewn gwrthdrawiad gyda lori ar yr A476 rhwng Temple Bar a Ffairfach ar 9 Hydref.

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu: "Rydym eisiau diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u negeseuon caredig.

"Hi oedd ein byd. Does dim geiriau yn ystod y cyfnod anodd hwn."

"Rydym yn gofyn i bawb roi amser i alaru ac i ddod i dermau gyda'r golled drasig hon o'n mam a gwraig."

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys y bu farw Ms Lewis yn y fan a'r lle.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig