Sgrinio canser yr ysgyfaint: Cymru 'wir ar ei hôl hi'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a gollodd ei daid i ganser yr ysgyfaint yn apelio am gynllun sgrinio cenedlaethol i Gymru.
Mae cynllun peilot newydd yn ne Cymru i sgrinio ysgyfaint 500 o bobl.
Ond mae dwy elusen ganser yn dweud bod Cymru ar ei hôl hi o ran cyflwyno cynllun cenedlaethol o'i gymharu â Lloegr.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wrthi'n ystyried sut y gallai cynllun sgrinio gael ei weithredu yng Nghymru.
'Oedd pawb yn ei nabod o'
Cymaint yw cryfder teimladau Ricky Williams, 32, tuag at godi ymwybyddiaeth o ganser yr ysgyfaint, mi gafodd datŵ o logo Sefydliad Roy Castle ar ei fraich er mwyn codi arian.
Mae'n gweithio i'r elusen ganser fel pennaeth creadigol, ac mae'r achos yn agos iawn at ei galon.
Bu farw ei daid, Eric Davies, yn 2016 o ganser yr ysgyfaint.
"Oddwn i, fy mrawd a Taid yn thick as thieves … oddan ni'n mynd lawr i'r pyb yn Llangefni a odd o'n dweud straeon o'i ddyddiau yn yr RAF.
"O'dd o'n gymeriad mawr yn y gymuned, pawb yn ei nabod o."
Mae'n dweud bod colli ei daid yn 79 oed wedi cael effaith fawr arnyn nhw fel teulu.
"O'dd o'n golled go iawn pan a'th o… Toedd o ddim just yn daid i mi, oedd o'n ffrind, oedd o'n ffrind gora'…"
Mae 1,800 o bobl yn marw o ganser yr ysgyfaint yng Nghymru bob blwyddyn.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, maen nhw wedi dechrau sgrinio am y cyflwr.
Cynllun peilot i 500 o bobl yw hwn, gyda phobl oedd yn arfer ysmygu, neu sy'n dal i wneud, ac sydd rhwng 60 a 74 oed yn derbyn gwahoddiad i gael sgan arbennig.
Diagnosis cynnar yn 'haws o lawer ei drin'
Mae elusen Sefydliad Roy Castle wedi croesawu'r ffaith bod y cynllun peilot ar y gweill - ond yn gresynu ei bod wedi cymryd cyhyd i'w gyflwyno yng Nghymru.
Dr Sinan Eccles, ymgynghorydd systemau anadlu ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, sy'n gyfrifol am y cynllun peilot.
Mi allai ddod o hyd i rhwng pump a 15 achos o ganser, o'r 500 sy'n cael eu sgrinio, meddai.
"Hwn yw'r achos mwyaf o farwolaethau canser yng Nghymru - mae'n lladd mwy o bobl bob blwyddyn na chanser y coluddyn a chanser y fron gyda'i gilydd.
"Os ydyn ni'n gallu dod o hyd i ganser ynghynt, mae'n haws o lawer ei drin, ac yn llawer mwy llwyddiannus."
Yn ôl Dr Eccles, mi allai sgrinio wneud gwahaniaeth, gyda thystiolaeth bod tri chwarter o'r achosion sydd wedi eu darganfod mewn cynlluniau sgrinio eraill, wedi dod o hyd i ganser yn gynnar yn ei ddatblygiad.
"Dyma'r prif beth allai wneud gwahaniaeth mwy i farwolaethau canser yng Nghymru", meddai.
'Heb weithredu eto'
Ar hyn o bryd, mae cynlluniau sgrinio ar gyfer darganfod canser y fron, y coluddyn a cheg y groth.
Ond llynedd, daeth argymhelliad gan bwyllgor sgrinio Cenedlaethol Prydain bod angen cyflwyno cynllun sgrinio ar gyfer canser yr ysgyfaint.
Yn Lloegr, mae 'na ymrwymiad bod y cynllun sgrinio am gyrraedd 40% o'r boblogaeth erbyn 2025, a 100% erbyn 2030.
Ym mis Gorffennaf, dywedodd gweinidog iechyd Cymru, Eluned Morgan, bod yr argymhelliad wedi ei "dderbyn mewn egwyddor" a bod Llywodraeth Cymru'n ystyried sut y gallai'r cynllun gael ei weithredu.
Elusen ganser Tenovus wnaeth helpu i ariannu'r cynllun peilot yng Nghwm Taf Morgannwg.
Ond maen nhw'n bryderus bod oedi yng Nghymru o ran cyflwyno cynllun cenedlaethol, o'i gymharu â Lloegr.
Eglurodd Lowri Griffiths o'r elusen: "'Da ni 'di bod efo recommendation gan yr UK Screening Committee ar gyfer rhaglen sgrinio ar gyfer canser yr ysgyfaint ond hyd at hyn, dydan ni ddim wedi gweithredu yn erbyn y recommendation yna.
"'Da ni'n gwybod yn Lloegr ar hyn o bryd bo' nhw wedi dweud bo' nhw isio 100% o coverage yna yn Lloegr erbyn 2030, felly 'da ni wir ar ei hôl hi yng Nghymru."
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maen nhw'n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i edrych ar gynllun sgrinio, ac yn awyddus i ddysgu o'r hyn fydd yn digwydd yn y cynllun peilot.
Ond yn ôl Lowri Griffiths mae 'na "risg enfawr" o beidio gweithredu'n gyflym.
"Ar hyn o bryd ma pobl yn marw, ac mi fydd mwy o bobl yn marw tan bo' ni yn dechrau ar y cynllun ar draws Cymru."
Adleisio hynny mae Ricky Williams: "Dio'r ots gan ganser yr ysgyfaint bo' chi yn Lloegr neu Cymru, neu lle bynnag arall yn y byd, mae dal yn mynd i effeithio chdi.
"Ma'r ffaith bo' ni tu ôl i lle ma Lloegr yn rhywbeth dwi'n teimlo mor gry' amdan, ma' rhaid i ni neud yn siŵr bod mwy o brosiectau fel hyn yn mynd o gwmpas Cymru."Ac mae'n dweud nad oes modd gor-bwysleisio pwysigrwydd sgrinio:"Be 'da ni fatha elusen isio neud yn sicr ydy bod llai o deuluoedd yn mynd drw' be ddaru teulu ni, a bo' nhw ddim yn mynd i golli taid, ffrindia', brawd, chwaer.
"Ma'r screening ma'n mynd i newid y ffordd ma pobl yn cael eu trin.
"A mae'n brifo i feddwl bod Taid wedi mynd, a fase na siawns bod o wedi gallu cael ei arbed."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2023