'Ro'n i'n meddwl bod gen i Covid ond canser oedd e'

  • Cyhoeddwyd
Julie Smith
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Julie Smith ddim yn credu bod y peswch a gafodd yn salwch difrifol

"Roeddwn i'n meddwl mai Covid oedd y canser ar fy ysgyfaint."

Fe gymerodd Julie Smith, 73, bedwar prawf Covid pan oedd hi'n peswch yn ddi-baid a methu blasu ym mis Medi 2021. Ychydig o wythnosau yn ddiweddarach dangosodd profion ysbyty bod ganddi ganser yr ysgyfaint a oedd yn derfynol.

Mae canser yr ysgyfaint yn lladd mwy o bobl nag unrhyw ganser arall ym Mhrydain. Fel arfer does dim symptomau tan bod yr afiechyd wedi datblygu yn sylweddol.

Mae meddygon ysgyfaint blaenllaw yn galw am sgrinio penodol yng Nghymru er mwyn canfod achosion o ganser yr ysgyfaint yn gynnar.

Mae sgrinio wedi bodoli yn Lloegr ers 2019. Cynllun peilot oedd e'n wreiddiol ond mae e bellach yn cael ei gynnig mewn 23 o ardaloedd. Daeth i fodolaeth wedi i dreialon rhyngwladol ddangos bod sgrinio yn gallu gostwng nifer y marwolaethau oddeutu 20%.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw sgrinio canser yr ysgyfaint wedi cael ei argymell gan Bwyllgor Sgrinio y DU ond bod hynny o dan ystyriaeth.

Dywedodd hefyd bod cynllun peilot yn cael ei ddatblygu yng Nghymru.

Fe dderbyniodd Julie o Bontypridd ei diagnosis bedwar mis ar ôl i'w chyn ŵr a thad eu dau blentyn farw o ganser yr ysgyfaint.

Ffynhonnell y llun, Julie Smith
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Julie Smith bod y canser wedi cael effaith ar ei gallu i flasu - yn enwedig bwyd melys fel hufen iâ

"Aethon ni i Butlins gyda'r teulu, es i ar y sleid ddŵr a phopeth a wedyn dechreuodd y peswch," dywedodd.

"Doedd dim byd yn bod arna i ar wahân i'r peswch ac ychydig o wythnosau yn ddiweddarach ro'n i methu blasu. Roeddwn i wedi cael fy mrechlynnau Covid i gyd ac felly fe feddyliais i y bydden i'n iawn a bod gen i Covid."

Erbyn i Julie dderbyn ei diagnosis roedd y canser wedi lledu i'w nodau lymff a'i hesgyrn ac felly doedd triniaeth i gael gwared o'r canser ddim yn bosib.

"I beidio bod yn sâl ac wedyn cael y diagnosis yma. Dwi methu credu'r peth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Sinan Eccles yn credu y dylid cael gwasanaeth sgrinio yn ardaloedd difreintiedig Cymru i ddechrau

Mae Dr Sinan Eccles yn arweinydd clinigol ar sgrinio canser yr ysgyfaint yng Nghymru.

Mae e eisiau datblygu cynlluniau sgrinio peilot yn ardaloedd difreintiedig Cymru ble mae achosion a marwolaethau o ganser yn uwch.

"Mae'r dystiolaeth ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint wedi tyfu dros y 10 mlynedd diwethaf," meddai.

"Mae treialon yn America ac yna yn Ewrop yn dangos gostyngiad o 20% o farwolaethau canser yr ysgyfaint - a phan chi'n sôn am y canser sy'n lladd y mwyafrif o bobl yng Nghymru, mae hyn yn beth mawr.

"Dwi'n meddwl mai dyma fydd y datblygiad pwysicaf mewn unrhyw math o ganser dros y 10 mlynedd nesaf.

"Mae canser y coluddyn a chanser y fron eisoes yn cael eu sgrinio ac mae hynna wedi helpu i ostwng marwolaethau. Ni eisiau dechrau gostwng y niferoedd sy'n marw o ganser yr ysgyfaint yng Nghymru drwy sgrinio a gwella pobol."

'Sgrinio sydd wedi achub fy mywyd'

Ffynhonnell y llun, Jo Shoba
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Jo Shoba yn fam-gu wedi i wasanaeth sgrinio canser yr ysgyfaint "achub ei bywyd"

Yn Lloegr mae pobl rhwng 55 a 74 mlwydd oed sydd yn ysmygu neu sydd wedi ysmygu yn gallu cael eu sgrinio os ydyn nhw'n byw mewn ardal lle mae'r gwasanaeth hwnnw ar gael.

Un o'r bobl hynny yw Jo Shoba o Lerpwl. Cafodd hi ei gwahodd i gael ei sgrinio yn Rhagfyr 2019.

Doedd ganddi ddim symptomau ond dangosodd y prawf sgrinio bod ganddi ganser Cam 1. Ar ôl cael triniaeth, dyw hi bellach ddim yn byw gyda chanser.

"Roeddwn i'n gwbl ffit ac yn iach. Doedd yna ddim arwyddion o gwbl ac roedd y cyfan yn sioc," meddai.

"Sgrinio sydd wedi achub fy mywyd i. A dwi'n meddwl am hynny wrth i fywyd fynd yn ei flaen. Mae fy ŵyr cyntaf wedi ei eni a dwi'n rhan o hynny - mae'r cyfan yn rhodd i ddweud y gwir."

'Llusgo ymhell tu ôl Lloegr'

Dywedodd Prif Weithredwr Tenovus Cymru, Judi Rhys, fod llywodraeth Cymru yn llusgo ei thraed.

"Mae'r cynllun sgrinio eto i ddigwydd yng Nghymru. Er bod yna sêl bendith i gynllun peilot, fydd e ddim yn digwydd tan yn hwyrach eleni. Ry'n yn llusgo ymhell y tu ôl i Loegr," meddai.

Er bod marwolaethau o ganser yr ysgyfaint yn uchel, dywed meddygon bod datblygiadau mewn triniaethau yn gallu ymestyn bywyd cleifion.

Mae Dr Mick Button yn arweinydd rhaglen canser yr ysgyfaint yng Nghanolfan Canser Felindre yng Nghaerdydd.

Dywed bod imiwnotherapi wedi bod yn ddatblygiad mawr "a bod ni'n gweld canlyniadau nawr na fyddem ni wedi breuddwydio eu gweld bum neu 10 mlynedd yn ôl," dywedodd.

"Mae rhai pobl sydd â chanser yr ysgyfaint yn cael triniaeth imiwnotherapi am ddwy flynedd ac erbyn diwedd hynny mae'n bosib mai dim ond arwydd bach iawn o ganser sydd ar ôl yn eu corff - does dim symptomau a maen nhw gallu byw llawer hirach."