Cyngor 'ar ei hôl hi' wrth ail-ddatblygu hen siop Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
Ocky White

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cyfaddef eu bod "ar ei hôl hi" wrth sicrhau busnesau ar gyfer datblygiad safle Ocky White yn Hwlffordd.

Bydd y datblygiad £12m yn cynnwys marchnad fwyd ynghyd â bwyty, bar a theras ar y to. Y nod yw cynyddu nifer yr ymwelwyr i'r dref.

Yn 2022 cafodd gweddillion dynol o'r oesoedd canol eu darganfod ar y safle yn Hwlffordd.

Gwnaeth hynny gynyddu cyllideb y datblygiad o £2m, a golygu gohirio gwaith adeiladu tra'r oedd gwaith archeolegol yn digwydd.

Y gyllideb wreiddiol ar gyfer y datblygiad oedd £6m. Yn ôl Cyngor Sir Penfro mae'r cynnydd o ganlyniad i'r pandemig, y rhyfel yn Wcráin a darganfyddiad archeolegol y llynedd.

Cyhoeddwyd ddydd Iau mai'r gobaith yw agor yr adeilad yn haf 2024. Y targed gwreiddiol oedd diwedd y flwyddyn hon.

Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn sicrhau cytundebau ar gyfer tenantiaid posib ar gyfer yr adeilad, i fusnesau'n cynnwys cwmnïau bwyd a diod.

Dywedodd Paul Miller, dirprwy arweinydd Cyngor Sir Penfro, fod y cyngor wedi derbyn "nifer positif o ddatganiadau o ddiddordeb".

Fodd bynnag, cyfaddefodd bod neb wedi ymrwymo'n swyddogol hyd yn hyn.

Dywedodd y cynghorydd Ceidwadol Diane Clements ei bod wedi gobeithio y byddai'r cyngor wedi sicrhau cytundebau erbyn hyn.

Y cyngor 'ar ei hôl hi'

Clywodd y cyfarfod fod y cyngor "ychydig ar ei hôl hi" gyda'r broses o sicrhau tenantiaid, yn ôl y dirprwy arweinydd.

Mae busnesau lleol a chenedlaethol wedi mynegi diddordeb ac mae trafodaethau pellach mewn "man ffurfiol", yn ôl Paul Miller.

Cadarnhawyd hefyd fod y gyllideb o £12m ar gyfer y datblygiad yn cynnwys costau gosod yr adeilad.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gweddillion mwy na 240 o bobl eu darganfod ar y safle fis Hydref 2022

Ym mis Hydref 2022 cafodd gweddillion mwy na 240 o bobl, gan gynnwys plant, eu darganfod gan archeolegwyr a oedd yn gweithio ar y safle.

Mae archeolegwyr yn credu bod yr adfeilion yn dod o fynwent Priordy St Saviour, a sefydlwyd tua 1256. Yn ôl un arbenigwr mae'r gweddillion yn "ffenestr i'r canoloesoedd yn Hwlffordd".

Mae'r fynwent yn dyddio nôl i'r 18fed ganrif.

Pynciau cysylltiedig