Canfod gweddillion dros 240 o bobl mewn olion hen briordy
- Cyhoeddwyd
Mae archeolegwyr sydd yn gweithio ar olion hen briordy canoloesol yng nghanol Hwlffordd wedi darganfod gweddillion dros 240 o bobl, gyda thua hanner yn blant.
Yn ôl rheolwr safle Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, Andrew Shobbrook, mae'r darganfyddiadau o dan hen siop Ocky White yn "bwysig tu hwnt" ac yn "ffenest i Hwlffordd yn yr Oesoedd Canol".
Mae gan dri o'r cyrff anafiadau i'r pen sydd yn awgrymu eu bod nhw wedi bod yn rhan o frwydr, yn ôl Mr Shobbrook.
"Mae gan y tri yma dyllau yn eu penglog, sydd yn ganlyniad o bosib i saeth neu ergyd o fwsged," meddai.
"Ry'n ni'n gwybod bod Owain Glyndŵr wedi ymosod ar y dref ym 1405, ac mae'n bosib eu bod nhw wedi cael eu clwyfo yn ystod y frwydr honno."
Y gred yw taw dyma oedd safle hen Briordy St Saviour gafodd ei sefydlu ger y Cleddau Wen ym 1256 gan Urdd o Fynachod Dominicaidd.
Er bod tua hanner y sgerbydau yn blant, dyw hynny ddim yn syndod i'r archeolegwyr am fod cyfradd marw plant yn uchel yn ystod yr Oesoedd Canol.
Yn ôl Andrew Shobbrook, mi fyddai'r safle wedi bod yn un helaeth nôl yn y 13eg ganrif.
"Roedd yna le cysgu, ysgrifenfa, stablau ac ysbyty. I bob pwrpas, roedd y mynachod yn hunangynaliadwy," meddai.
"Roedd e'n lle y byddai rhywun yn dymuno cael ei gladdu. Roedd yna drawstoriad o bobl o'r cyfoethog i bobl gyffredin y dref."
Mae arbenigwyr yn amau bod y fynwent wedi cae ei defnyddio tan y 18fed ganrif.
Roedd Hwlffordd yn dref bwysig yn y canol oesoedd, gyda chrefftwyr Fflemaidd yn gwerthu carthenni ar draws Cymru ac mor bell â Bryste.
Mae'r sgerbydau wedi cael eu codi o hen safle'r Priordy ac yna eu glanhau mewn siop gyfagos. Mae olion teils hynafol wedi cael eu darganfod yn ystod y cloddio hefyd.
'Profiad anhygoel'
Mae'r archeolegydd Gaby Lester wedi bod yn rhan o'r tîm sydd yn gweithio ar y safle.
"Mae'n brofiad anhygoel. Doeddwn i ddim yn disgwyl rhywbeth ar y scale yma ac mae'n wych bod yn rhan o'r tîm.
"Ni wedi ffindio lot o bethau fel teils wedi eu haddurno, ond ni'n canolbwyntio nawr ar y sgerbydau sydd yn dangos lan yn y fynwent.
"Mae dros ddau gant o gyrff, ac mae plant hefyd. Mae'n dangos mor galed oedd bywyd. Ni'n gweithio gyda lot o barch achos ni'n rhan o'u stori nhw.
"Roedd gan y bobl yma fywydau eu hunain ac mae'n rhaid bod yn barchus o hynny."
Yn ôl Gaby, mae'r gwaith cloddio wedi rhoi cyfle unigryw i graffu ar Hwlffordd ganrifoedd yn ôl.
"Mae'n rhoi edrychiad ardderchog i ni weld shwd oedd bywyd yn Sir Benfro, a gweld pwy oedd yn dod i'r dref achos roedd pobl yn dod o bell i Sir Benfro. Mae'n wych ein bod ni wedi cael y siawns i ddod ac i ddarganfod beth ni wedi."
Mae olion dros 240 o bobl bellach wedi cael eu canfod. Fe fydd arbenigwr esgyrn yn craffu ar yr olion cyn iddyn nhw gael eu hail-gladdu ar dir cysegredig yn Hwlffordd neu'r ardal gyfagos.
Fe fydd y safle yn y pen draw yn siop fwyd a bar - rhan o ddatblygiad Cei y Gorllewin i adfywio canol tref Hwlffordd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2021
- Cyhoeddwyd2 Mai 2021
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2016