Bridiwr cŵn o Sir Gâr i dalu £100,000 neu garchar

  • Cyhoeddwyd
Cwn bachFfynhonnell y llun, Reuters

Mae bridiwr cŵn o Landdarog yn Sir Gaerfyrddin wedi cael gorchymyn i dalu dros £100,000 neu gael ei charcharu am 21 mis am werthu cŵn bach yn anghyfreithlon.

Dywed Cyngor Sir Gaerfyrddin bod Deborah Thomas wedi derbyn dros £90,000 ar ôl gwerthu naw torraid o gŵn bach dros gyfnod o 12 mis heb y drwydded briodol.

Dywed y cyngor bod swyddogion wedi cysylltu â hi sawl gwaith i nodi pa drwyddedau oedd eu hangen ond fe wnaeth hi i barhau i weithredu'n anghyfreithlon.

Mae'n anghyfreithlon hysbysebu tair thorraid neu fwy o gŵn bach o'r un safle mewn cyfnod treigl o 12 mis heb drwydded bridio cŵn.

Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid hefyd yn golygu y gallai fod angen trwydded ar unrhyw un sy'n ymwneud â gwerthu anifeiliaid anwes yn fasnachol.

Ffynhonnell y llun, Philip Halling / Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn yr erlyniad gan Gyngor Sir Caerfyrddin, bydd yn rhaid i Deborah Thomas dalu £100,000 neu wynebu carchar

Mewn erlyniad dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, dywedwyd wrth y llys fod swyddogion lles anifeiliaid wedi ymchwilio i weithgarwch bridio anghyfreithlon Thomas yn dilyn gwybodaeth a dderbyniwyd gan yr adran.

Roedd gwybodaeth a ddarparwyd gan lwyfannau hysbysebu Gumtree, Pets4Homes, Preloved a Freeads yn tynnu sylw at raddfa'r gweithgarwch, ac yn rhoi'r dystiolaeth angenrheidiol i'r achos fynd yn ei flaen.

Cafwyd gorchymyn atafaelu am £90,000, sy'n daladwy o fewn 3 mis, ac roedd hi'n ofynnol hefyd i Thomas dalu £10,000 o gostau ychwanegol.

Cafodd Thomas hefyd ddirwy o £1,000 am y drosedd a rhaid iddi dalu gordal dioddefwr o £100, sy'n daladwy o fewn 12 mis.

Bydd methu â thalu'r £90,000 yn arwain at ddedfryd o garchar am 21 mis.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: "Rhaid i mi ganmol gwaith ein swyddogion iechyd anifeiliaid wrth ddod â'r bridiwr cŵn anghyfreithlon hwn o flaen ei gwell.

"Mae'n bwysig iawn bod bridwyr cŵn sy'n dymuno gwerthu cŵn yn fasnachol yn cael y drwydded gywir fel y gallwn ni, fel cyngor, fonitro lles yr anifeiliaid dan sylw yn gywir.

"Fel y mae'r achos hwn yn ei brofi, bydd y cyngor yn gweithredu yn erbyn unrhyw fridiwr cŵn nad yw'n cydymffurfio â'r gofyniad hwn."

Pynciau cysylltiedig