Botox: Plant yn dod o Loegr i Gymru i dderbyn triniaeth
- Cyhoeddwyd
Mae plant dan 18 oed yn croesi'r ffin o Loegr i Gymru i gael Botox, yn ôl ymgyrchwyr.
Dwy flynedd yn ôl, cyflwynwyd deddf yn Lloegr a oedd yn gwneud hi'n anghyfreithlon i roi Botox a phigiadau llenwi gwefusau i blant dan 18 os yw ar sail resymau cosmetig. Does dim deddf o'r fath yng Nghymru.
Ers y ddeddf, mae Save Face - sy'n cadw cofrestr o ymarferwyr cymwysedig yn y DU - yn dweud eu bod wedi cael adroddiadau am blant dan-18 o Loegr yn croesi i Gymru i dderbyn triniaeth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o'r "bwlch rheoleiddiol" gyda Lloegr ac y byddan nhw'n gwneud gwaith pellach yn y maes.
'Pwysau'
Mae Ruby Davies, sy'n 18 oed ac o Ben-y-bont, eisiau derbyn triniaeth llenwi gwefusau.
Dywed ei bod yn teimlo dan bwysau gan y cyfryngau cymdeithasol i wneud, ac mai dim ond gofidion ei rhieni sydd wedi ei hatal rhag cael y triniaethau hyd yma.
Er gwaethaf eisiau cael y driniaeth, dywedodd y byddai'n hoffi gweld y gyfraith yn cael ei chyflwyno yng Nghymru i ddiogelu pobl ifanc rhag "gwneud camgymeriadau" a "difaru" triniaethau.
"Dwy neu dair blynedd yn ôl, byddwn i ddim yn poeni cymaint ag yr ydw i nawr," meddai.
"Pan oeddwn i'n 15 neu 16, roeddwn i'n meddwl 'o beth bynnag, dim ots - dim ond unwaith mae pobl yn byw'."
Ychwanegodd: "Yr hynaf ydych chi, y mwyaf ych chi'n meddwl am bethau - yn meddwl am y canlyniad, neu beth allai ddigwydd."
Dywedodd Ashton Collins, cyfarwyddwr Save Face, bod y triniaethau yma'n dod yn fwyfwy poblogaidd a bod "argyfwng ar fin digwydd gyda phobl ifanc".
Mae hi'n credu mai'r "dewis amlwg" i Gymru yw gweithredu'r ddeddf.
Ychwanegodd fod y math yma o driniaethau â "risgiau" ac y byddai cael terfyn oedran cyfreithiol yn atal plant rhag delio â chymhlethdodau yma.
Ers newid y gyfraith yn Lloegr ym mis Hydref 2021, maen nhw wedi cael galwadau am blant dan 18 oed yn croesi'r ffin o lefydd fel Bryste a Henffordd.
Mae rhaglen BBC Wales Live wedi ffonio a chysylltu gyda chlinigau ledled Cymru i weld a fyddan nhw'n trefnu apwyntiad i blant 17 oed.
Allan o 10, ni ofynnodd unrhyw un o'r clinigau am oedran y cwsmer cyn cynnig trefnu apwyntiad.
Pan ddywedwyd bod yr apwyntiad ar gyfer plentyn 17 oed, dywedodd saith allan o 10 na fyddan nhw'n trefnu apwyntiad, dywedodd dau eu bod yn ansicr ac y byddan nhw'n ffonio yn ôl, a dywedodd un os oedd rhiant yn dod gyda'r person, yna y byddan nhw'n cynnal y driniaeth.
'Dim sioc na syndod'
Mae Dr Megan Samuel wedi cynnig triniaethau aesthetig "fel Botox, dermal fillers a gofal croen meddygol" ers graddio fel deintydd yn 2017, ac mae hi nawr yn ei phedwaredd flwyddyn yn astudio meddygaeth yn Llundain.
Dywedodd bod mwyafrif y cleifion mae hi wedi eu trin rhwng 20 a 40 oed, a bod hi'n "hollbwysig" i wirio oedran yr unigolyn i sicrhau eu bod dros 18.
"Yn ystod pob ymgynghoriad, rwy'n nodi hanes meddygol y claf yn fanwl gan ystyried os yw'n briodol iddyn nhw gael unrhyw driniaeth," meddai Dr Samuel, sy'n gweithio gan amlaf yn ardal Llundain.
Mae'r ffaith bod pobl ifanc yn croesi'r ffin i gael triniaethau yng Nghymru, meddai, "ddim yn sioc nac yn syndod i fi".
Dywedodd: "Ni'n byw mewn oes lle ma' delwedd bersonol yn cael ei hystyried cyn bwysiced â'n hiechyd - weithiau yn bwysicach i rai. A gyda hysbysebion Botox ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'r apêl o'n hamgylch bob dydd.
"Fi'n meddwl dylai'r deddfau newid yng Nghymru er lles y cyhoedd a'r diwydiant. Mae angen bod yn llymach ynghylch heddlua Botox hefyd a bod pobl gymwys yn gwneud y gwaith.
"Fe allai triniaethau sâl arwain at sgil effeithiau fel heintiau neu alergeddau. Dim ond pobl dros 18 dylai fod yn ei gael gan fod cyrff harddegau yn parhau i dyfu a datblygu.
"Mae pobl ifanc nid ond yn datblygu'n gorfforol ond yn feddyliol hefyd a falle ddim yn gwir ddeall y risg sy'n gysylltiedig gyda ca'l triniaeth aesthetig.
"Ma' ofn gen i fod safonau delwedd afrealistig heddiw wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn anawsterau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc. Ma' nhw'n cymharu eu hunain yn barhaus gyda delweddau annaturiol, anghyrraeddadwy."
'Diangen'
Mae Sophie Riddell, presgripsiynydd fferyllol, yn gweithio mewn clinigau yn ne Cymru.
Dywedodd nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i helpu diogelwch cleifion yn y maes a bod y diwydiant "allan o reolaeth".
Dywed Ms Riddell fod pobl dan 18 oed yn cysylltu â hi am driniaeth, er nad yw hi'n cynnig triniaeth o gwbl i bobl o dan 21 oed, gan ei bod yn teimlo fel bod "rhoi triniaethau cosmetig i unrhyw un o dan yr oedran yna yn ddiangen".
Ond dywed nad oes ganddi'r pŵer i atal pobl ifanc rhag mynd i lefydd eraill.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod Botox yn feddyginiaeth presgripsiwn yn unig a bod y rhagnodwr cymwys yn "gyfrifol am sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei roi'n ddiogel ac yn unol â safonau proffesiynol derbyniol ac er lles y claf".
Ychwanegodd: "Rydym yn ymwybodol bod bwlch rheoleiddiol yng Nghymru mewn perthynas â'r mathau hyn o weithdrefnau a byddwn yn gwneud gwaith pellach yn y maes pwysig hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2015