Ymweliadau rhyw heddwas yn 'gamgymeriad mawr'

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Heddlu'r De ym Mhen-y-bont ar OgwrFfynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwrandawiad yn cael ei gynnal ym Mhencadlys Heddlu'r De ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae swyddog gyda Heddlu'r De wedi dweud wrth wrandawiad camymddwyn nad oedd yn credu ei fod ar ddyletswydd pan aeth i dŷ dynes i gael rhyw yn ystod ei amser cinio.

Mae'r swyddog o ardal Abertawe - na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol - yn wynebu pedwar cyhuddiad o gamymddwyn difrifol ac un o gamymddwyn.

Mae'n cyfaddef camymddwyn ond nid camymddwyn difrifol yn achos y pedwar honiad yn ymwneud â chael rhyw tra'r oedd i fod wrth ei waith.

Mae'n gwadu honiad arall o gamymddwyn yn ymwneud â chyfres o alwadau cymdeithasol â'r ddynes ac aelod o'r teulu pan oedd ar ddyletswydd.

Dywedodd y swyddog, sydd yn ei 40au, wrth y gwrandawiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr: "Rwyf wedi gwneud llanast llwyr. Roeddwn i'n wir gredu ar y pryd nad oeddwn ar ddyletswydd."

'O dan straen eithriadol'

Aeth y swyddog, oedd wedi ei leoli yn Abertawe, i gartref y ddynes yn y ddinas yn ystod ei awr ginio ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2018.

Dywedodd wrth y gwrandawiad y byddai'n newid o'i grys heddlu i grys-t ond y byddai'n cadw ei drowsus ac esgidiau heddlu ymlaen cyn ymweld â'r ddynes, sy'n cael ei hadnabod fel Miss A.

Ychwanegodd y byddai'n gadael ei radio heddlu ar ôl wrth wneud y daith fer i'w chartref o'r orsaf heddlu yn ei gar ei hun.

Dywedodd iddo dreulio uchafswm o 45 munud yn ei thŷ rhwng 11:00 a 12:00.

"Rhoddais fy nwylo i fyny," meddai.

"Fe wnes i gamgymeriad, doeddwn i ddim yn meddwl yn iawn ar y pryd. Wrth feddwl fe wnes i gamgymeriad mawr.

"Hoffwn pe gallwn fynd yn ôl bum mlynedd a newid pethau.

"Nid fi ydy hyn. Roedd yn farn wael."

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr heddwas wedi ei leoli yn Abertawe

Fe ofynnodd cadeirydd y panel, Oliver Thorne, wrtho: "Pe bai galwad frys wedi bod a'ch bod yn y gwely ac nad oeddech yn gallu clywed yr alwad honno, a yw hynny'n peri pryder i chi?"

Atebodd y swyddog: "Mae yn nawr."

Dywedodd wrth y gwrandawiad nad oedd wedi croesi ei feddwl ar y pryd ei fod ar ddyletswydd.

Dywedodd fod uwch swyddogion wedi dweud wrtho am "reoli eich amser eich hun" a'i fod yn aml yn gweithio oriau ychwanegol ond nad oedd yn gallu hawlio'r amser hwnnw'n ôl.

Dywedodd Mr Thorne: "Fe golloch chi bob synnwyr, fe fyddech chi'n gwybod nad oedd yr hyn yr oeddech chi'n ei wneud yn iawn."

Atebodd y swyddog: "Doeddwn i ddim yn credu ar y pryd fy mod yn gwneud rhywbeth difrifol o'i le."

Dywedodd fod yr ymweliadau yn "tynnu sylw" o ddigwyddiadau dwys yn ei fywyd.

'Methu gweithredu fel heddwas'

Dywedodd Jonathan Walters ar ran Heddlu De Cymru: "Yr anhawster yw bod gwneud yr hyn a'i wnaeth wedi rhoi ei hun mewn gwirionedd mewn sefyllfa lle nad oedd yn gallu gweithredu fel heddwas.

"Nid ymweliad cymdeithasol yn unig oedd hwn. Roedd yn mynd yno i gael rhyw."

Dywedodd Christopher Rees KC, sy'n cynrychioli'r swyddog: "Roedd gan y swyddog hwn berthynas gydsyniol â Miss A.

"Fe gafodd rhyw gyda hi ar bedwar achlysur. Y cyd-destun yw amgylchiadau'r swyddog ar y pryd.

"Roedd o dan straen eithriadol. Roedd yn berson bregus."

Bydd y gwrandawiad yn parhau ddydd Mawrth.

Pynciau cysylltiedig