Menyw wedi tagu i farwolaeth ar ôl her bwyta malws melys

  • Cyhoeddwyd
Natalie BussFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Natalie Buss ei disgrifio fel "gwraig, mam a merch wych" yn dilyn ei marwolaeth

Bu farw menyw ar ôl tagu wedi iddi gymryd rhan mewn cystadleuaeth bwyta malws melys (marshmallows), mae cwest wedi clywed.

Roedd Natalie Buss, 37, wedi bod ar lwyfan yng Nghlwb Rygbi Beddau, Rhondda Cynon Taf, mewn noson codi arian ar nos Sadwrn, 7 Hydref.

Clywodd y crwner, Patricia Morgan, fod Ms Buss wedi "cymryd rhan mewn cystadleuaeth i ffitio'r nifer mwyaf o falws melys yn eu ceg".

"Ar ddiwedd y digwyddiad, gadawodd Natalie y llwyfan a chwympo mewn coridor," meddai. "Roedd hi'n ymddangos ei bod hi'n tagu."

Clywodd y crwner fod CPR wedi ei roi i Ms Buss tan i barafeddygon gyrraedd, ond ni allai gael ei hadfywio a bu farw yn y fan a'r lle.

Ymchwiliad

Mae archwiliad post mortem a gafodd ei gynnal yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi rhoi achos marwolaeth dros dro fel "yn aros ymchwiliad pellach".

Mewn datganiad, talodd y clwb deyrnged i "wraig, mam a merch wych" gan ddweud eu bod wedi "colli ffrind annwyl iawn".

Dywed Heddlu'r De eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad, ac mae yna hefyd ymchwiliad gan gyngor Rhondda Cynon Taf fel y rheolydd iechyd a diogelwch.

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn caniatáu i ymchwiliadau gael eu cynnal i amgylchiadau'r farwolaeth.

Mynegodd y crwner Patricia Morgan ei chydymdeimlad â theulu Natalie Buss.

Pynciau cysylltiedig