Yr Hybarch Dorrien Davies wedi'i benodi yn Esgob Tyddewi
- Cyhoeddwyd
Dorrien Davies, Archddiacon presennol Caerfyrddin sydd wedi cael ei benodi yn esgob newydd Tyddewi.
Fore Llun cafodd drysau yr Eglwys Gadeiriol eu cloi er mwyn ethol esgob newydd.
Daw ei benodiad yn dilyn ymddeoliad Dr Joanna Penberthy dros yr haf, wedi chwe blynedd yn y swydd.
Yn enedigol o Abergwili ac yn Gymro Cymraeg, hyfforddwyd Dorrien ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad ym 1989.
Ers 2017 mae ef wedi bod yn Archddiacon Caerfyrddin ac wedi bod yn gwasanaethu fel offeiriad yn ardal Sanclêr.
Gwasanaethodd fel curadur yn Llanelli cyn cael ei benodi'n Ficer Llanfihangel Ystrad Aeron yng Ngheredigion. Yn ystod y cyfnod hwnnw, astudiodd Dorrien am radd ym Mhrifysgol Cymru, Coleg Llanbedr Pont Steffan, gan raddio ym 1995.
Fe'i penodwyd yn Ficer Llandudoch, Sir Benfro, ym 1999 a gwasanaethodd yno am 11 mlynedd.
Yn 2007, fe'i gwnaed yn Ganon yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac yn 2010, symudodd i Dyddewi fel Canon Preswyl.
Mae Dorrien yn briod â Rosie ac mae ganddynt ddau fab, Morgan a Lewies. Mae ei hobïau yn cynnwys darllen a phaentio.
'Wrth fy modd'
Mr Davies fydd y 130ain esgob ar esgobaeth sy'n cwmpasu siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion.
Sicrhaodd yr Archddiacon Dorrien y bleidlais fwyafrifol angenrheidiol o ddwy ran o dair gan aelodau'r Coleg Ethol ar ail ddiwrnod y cyfarfod yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud wrth ddrws gorllewinol y Gadeirlan gan Archesgob Cymru, Andrew John.
Dywedodd: "Rwyf wrth fy modd bod Archddiacon Caerfyrddin wedi'i ethol.
"Bydd ei brofiad o'r lle hwn a'i ddoethineb dwfn a'i sgiliau i gyd yn cael eu defnyddio wrth arwain yr esgobaeth yn ei blaen a'i dwyn ynghyd mewn ffydd, gobaith a chariad.
"Yn ei ofal ef, gwn y bydd yr esgobaeth hon, fel y dywedodd Dewi Sant ei hun wrthym, yn llawen, yn gwneud y pethau bychain ac yn cadw'r ffydd."
Yn syth wedi ei benodiad o flaen drysau'r gadeirlan dywedodd yr esgob newydd: "Rwyf am gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bob un ohonoch chi dros y dyddiau diwethaf am eich cefnogaeth a'ch gweddïau a dwi'n diolch i Dduw fy mod i wedi cael y fath fraint i fod gyda chi - ac i drafod yr esgobaeth hon a nawr chi wedi 'neud y dewis fy mod i fel gwas Duw yn mynd i arwain yr esgobaeth hon i ffyrdd newydd a, gobeithio, llwyddiannus."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2016