Cyn-gynghorydd yn pledio'n euog i anafu'n fwriadol
- Cyhoeddwyd

Cafodd Darren Brown ei ddychwelyd i'r ddalfa a bydd yn mynd o flaen Llys Y Goron Caerdydd eto mis nesaf
Mae cyn-gynghorydd tref ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi pledio'n euog i anafu'n fwriadol.
Roedd Darren Brown, sy'n 34 oed ac o ardal Melin Wyllt, wedi pledio'n ddieuog mewn gwrandawiad blaenorol i gyhuddiad o geisio llofruddio.
Ymddangosodd Mr Brown yn Llys y Goron Caerdydd fore Iau.
Bu'n rhaid cludo menyw i'r ysbyty mewn cyflwr sefydlog wedi i'r heddlu gael eu galw mewn ymateb i ymosodiad difrifol mewn tŷ yn ardal Melin Wyllt ar 10 Gorffennaf.
Clywodd y llys bod y fenyw wedi cael tri anaf yn y digwyddiad.

Cafodd yr heddlu eu galw mewn ymateb i ddigwyddiad ar stâd Tairfelin yn ardal Melin Wyllt y dref ym mis Gorffennaf
Cafodd Mr Brown ei gadw yn y ddalfa nes gwrandawiad ar 17 Tachwedd pan mae disgwyl i'r erlyniad gadarnhau a fydd yn derbyn ei ble diweddaraf.
Roedd Mr Brown yn ymddangos yn ddagreuol wrth gyflwyno ei ble.
Fe ymddiswyddodd fel aelod annibynnol ward Morfa y cyngor tref ym mis Medi.
Roedd y gwrandawiad blaenorol wedi nodi bwriad i gynnal achos llawn ddechrau Ionawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2023