Y sylw'n troi nôl i'r rhanbarthau
- Cyhoeddwyd
A dyna ni'r diwedd ar obeithion Cymru yng Nghwpan y Byd am bedair blynedd arall. Colli oedd hanes y cochion yn erbyn Yr Ariannin yn y chwarteri, ac mae Warren Gatland wedi dweud yn barod bod y gwaith yn dechrau nawr i adeiladu ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Awstralia, fydd yn dechrau ar 10 Medi, 2027.
Mae sylw chwaraewyr Cymru'n troi nôl i'w rhanbarthau a chlybiau. Yma mae Cennydd Davies yn asesu ymgyrch Cwpan y Byd Cymru, a hefyd edrych ar beth allwn ddisgwyl o ran y rhanbarthau eleni.
Cyn gynted fod y llen wedi ei thynnu ar ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd mae'r tymor domestig o'r diwedd yn dechrau unwaith eto penwythnos yma. Ond cyn edrych ymlaen at Bencampwriaeth Rygbi Unedig mae'n rhaid dadansoddi'r chwe wythnos diwethaf yn Ffrainc. Ydy mae'r teimlad fflat a siomedig yn dal i fodoli wedi digwyddiadau Marseille a theimlad o'r hyn y gallai wedi bod pe bai Cymru wedi bod yn glinigol ac ymestyn y fantais erbyn hanner amser.
Ydy, mae'r ffin rhwng ennill a cholli yn denau - modfeddi yn achos Louis Rees-Zammit! Roedd cyrraedd y pedwar olaf o fewn cyrraedd y garfan bresennol ac mi fyddai hynny wedi bod yn fwy na derbyniol. Ond prin fyddai unrhwyun wedi rhoi gobaith yn erbyn y Crysau Duon - roedd y gêm yn erbyn y Gwyddelod yn sawl lefel yn uwch na'r hyn a welwyd yn y Stade Velodrome.
Adfer hunan-barch
Wrth droi'r cloc nôl at gychwyn y flwyddyn mi roedd sefyllfa'r gamp mewn dyfroedd dyfnion.
Roedd y tîm yn barod wedi syrthio i'r dyfnderoedd wrth golli yn erbyn Georgia a doedd hyd yn oed Warren Gatland y tro hwn ddim yn gallu creu gwyrthiau wrth i'r tîm golli pedair allan o bump gêm yn y chwe gwlad. Roedd y trafferthion yn adlewyrchu'r hyn oedd yn digwydd tu hwnt i'r cae chwarae - cyhuddiadau o ddiwylliant gwenwynig a rhywiaeth honedig, ac yna'r holl ansicrwydd ynglŷn â thâl chwaraewyr a bygythiad streicio i ddilyn.
Fe roedd rygbi Cymru mewn pydew go iawn ac er nad yw'r trafferthion wedi diflannu o gwbwl mae'r hyn y welsom ni yn Ffrainc wedi bod yn destun llawenydd wrth ennyn teimlad o falchder. Roedd y cysylltiad clos oedd ar goll rhwysut rhwng y cefnogwyr a'r tîm cenedlaethol yn ôl, roedd y garfan gyfan yn llysgenhadon teilwng ar y cyfandir ac roedd ennill grŵp oedd yn ymddangos mor drafferthus ar drothwy'r gystadleuaeth, gan ennill pedair gêm, yn fwy na boddhaol.
Nôl i'r bara menyn
Mae'n anodd credu bod bron i chwe mis wedi pasio ers i'r ranbarthau chwarae'n gystadleuol, ac anodd fydd procio diddordeb y cefnogwyr gyda Chwpan y Byd yn dal ymlaen tan ddiwedd y mis. Wedi sawl blwyddyn anodd a chanlyniadau siomedig mae 'na bryder mai gwaethygu fydd y sefyllfa cyn gwella. Mae cyllid y rhanbarthau wedi cwtogi i £5.2 miliwn eleni a bydd hynny'n lleihau ymhellach tymor nesa i £4.5 miliwn.
Yn anorfod felly mae 'na chwaraewyr wedi codi pac er mwyn dod o hyd i gytundebau gwell. Bydd y ffaith bod y cyllidebau ar gyfer y rhanbarthau wedi lleihau'n sylweddol heb os yn rhoi straen ar eu gallu i gystadlu eleni eto. Gyda'r gydnabyddiaeth y bydd y sefyllfa'n debygol o waethygu cyn gwella mi fydd hi'n syndod gweld unrhyw dîm o Gymru yn hanner ucha'r gystadleuaeth - sobor o beth i broffwydo yn anffodus, ond yn syml dyna realiti presennol y gêm broffesiynol.
Yr un rhai i reoli?
Munster enillodd y gystadleuaeth y llynedd wrth guro'r Stormers yn y rownd derfynol yn Cape Town, ac eto eleni timau De Affrica ac Iwerddon fydd yn ymgiprys am y brig. Pwy a wŷr erbyn hynny efallai mai'r Springboks fydd pencampwyr y byd eto!
Er fod cystadleuaeth sy'n cynnwys pum gwlad ac yn cael ei chwarae dros ddau hemisffer yn gysyniad estron i nifer, mae'r awdurdodau serch hynny yn flynyddol yn ymgeisio i fod yn arloesol a gwella safon y rygbi.
Y newid mawr eleni yw'r mai'r wyth uchaf yn unig fydd yn cymhwyso i gystadlu yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop. Bydd dim ffordd drwy'r drws cefn i ranbarthau Cymru wrth ennill y darian Gymreig, ac felly mae 'na bosibilrwydd cryf ar sail safleoedd y llynedd na fydd 'na un tîm o Gymru yn cystadlu ym mhrif gystadleuaeth Ewrop am y tro cyntaf. Mae'n benderfyniad i'w gymeradwyo yn yr ystyr na fydd yna ail gyfle ond yn benderfyniad a allai gael effaith pellgyrhaeddol ar y ranbarthau.
Yr undeb a'r ranbarthau yn unedig?
Mewn cyfweliad diweddar fe ddywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker, fod y berthynas yn un bositif ac yn symud tuag at y cyfeiriad cywir - gallwn ond gobeithio. Fe roedd y berthynas ar chwâl y llynedd pan oedd dyfodol y gêm broffesiynol mewn sefyllfa argyfyngus. Mae'n hanfodol fod yr Undeb a'r rhanbarthau'n cyd-dynnu a fod yna gyd-weithredu er gwell er mwyn gwella safonau ar lawr gwlad.
Dylai'r hyn ddigwyddodd yn Ffrainc ddangos yn glir yr hyn sy'n bosib drwy ariannu'n ddoeth, a chynllunio manwl a hir dymor o ran y strwythur yn gyfan-gwbl. Mae 'na sawl clec yn mynd i fod ar hyd y daith ond mae'n rhaid i bawb gyd-dynnu er gwell ac osgoi troi nôl wedi un o'r cyfnodau mwyaf cythryblus erioed!
Hefyd o ddiddordeb: