Ydy pobl ifanc 'wedi diflasu' gydag alcohol?

  • Cyhoeddwyd
Emily Williams
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Emily Williams roi'r gorau i alcohol pan oedd hi'n 24 oed

Mae nifer cynyddol o bobl ifanc yn dewis peidio yfed alcohol, yn ôl arolwg diweddar.

Mae arolwg cenedlaethol diweddaraf Cymru yn dangos bod un o bob pump o bobl ddim yn yfed, a dau draean yn ystyried eu hunain yn yfwyr "cymedrol".

Mae Emily Williams, sy'n 26 oed, yn dweud bod stopio yfed alcohol wedi cael effaith "anferth" ar ei gor-bryder ac ar ei hiechyd meddwl.

Daw wrth i fwy o gwmnïau gychwyn creu diodydd di-alcohol.

'Pobl ifanc wedi diflasu'

Dywedodd Emily fod "pobl ifanc wedi diflasu" ac yn "teimlo'n jaded hefo alcohol".

Dywedodd ei fod yn anodd gweld "lle mae'r pwynt terfyn".

"Mae'n really hawdd i ddechrau, cael dau beint yn y pub, wedyn yn bennu lan yn yfed lot mwy."

Disgrifiad o’r llun,

Ers rhoi'r gorau i yfed, mae Emily wedi rhedeg marathon

Fe benderfynodd Emily roi'r gorau i alcohol ddwy flynedd yn ôl pan oedd yn 24 oed. Dywedodd ei fod wedi cael "effaith anhygoel".

Mae hi'n un o 20% o Gymry sy'n dewis peidio ag yfed alcohol, gyda nifer cynyddol o bobl ifanc naill ai'n sobor neu'n chwilfrydig i'r syniad o roi'r gorau.

"I fi roedd yn benderfyniad pwysig," meddai Emily o Gaerdydd.

"Fel lot o bobl ifanc, o'n i'n mynd i'r pub a meddwl - 'nai gael dau beint' - o'n i'n cael tri neu bedwar yn lle, ma' lot o bobl yn gwneud hynna, ond o'n i'n teimlo'n anghyfforddus gyda fe."

'Effaith anhygoel'

Dywedodd bod ei bywyd wedi newid a'i bod yn llawer mwy egnïol ac yn cyflawni mwy ar ôl rhoi'r gorau i alcohol."Mae'n effaith anhygoel. Ers stopio yfed, fi 'di rhedeg marathon. Doeddwn i ddim yn rhedeg o gwbl tra o'n i'n yfed."Nes i gychwyn rhedeg ar ôl stopio achos odd e'n haws i fod yn gyson."

Mae'r newid hefyd wedi cael effaith "anferth" ar ei gor-bryder a'i hiechyd meddwl."O'dd e fel anxiety yn y cefndir o hyd o gael hangover, neu fod yn ymwybodol bo' fi'n yfed bach gormod ond ma' hwnna wedi mynd," ychwanegodd.

Yn ôl Emma McClarkin, prif weithredwr Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain, mae cynnydd sylweddol wedi bod ym maes cwrw di-alcohol, gyda gwerthiant cwrw dim alcohol a chwrw alcohol isel wedi mwy na dyblu ers 2019.

"Mae mwy o dafarndai nag erioed o'r blaen nawr yn cynnig o leiaf un cwrw di-alcohol," meddai.

Bragdy di-alcohol mwyaf y DU

Mae'r cynnydd yn y farchnad wedi bod yn enfawr i berchnogion busnes Joelle a Sarah Drummond.

Sefydlodd y cwpl gwmni cwrw 0.5% Drop Bear Beer Co yn 2019, ac maen nhw newydd agor bragdy di-alcohol mwyaf y DU yn Abertawe.

Fe wnaethon nhw gychwyn y cwmni ar ôl "cymryd seibiant o yfed" a sylweddoli y gallen nhw greu cwrw crefft.

Disgrifiad o’r llun,

Fe sefydlodd Joelle a Sarah Drummond y cwmni Drop Bear Beer yn 2019 ar ôl dechrau gyda sosban yn eu fflat

Fe wnaethon nhw ddarganfod mai'r diwydiant diodydd di-alcohol sy'n "tyfu gyflymaf" a cheisio gwneud eu cwrw eu hunain mewn sosban yn eu fflat un ystafell. 

"A dyma ni heddiw," meddai Joelle, 29 oed. "Mae'n eithaf swreal."

Dywedodd y merched eu bod wedi llwyddo mewn "diwydiant sy'n bennaf yn ddynion" a'u bod wedi gweld twf o 2,000% o fewn pedair blynedd.

Dywedodd Joelle: "Pan ddechreuon ni, roedd agweddau pobl at ddiodydd di-alcohol yn wahanol iawn a doedd llawer o bobl ddim yn gweld y pwynt."

"Ond nawr dydy pobl ddim hyd yn oed yn gofyn beth yw'r pwynt. Maen nhw'n holi sut mae'n blasu?"

Dywedodd Joelle bod twf wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i newid agweddau, a bod y pandemig wedi bod yn "gatalydd" i hynny.

"Rydyn ni i gyd newydd ddechrau rhoi ychydig mwy o sylw i'n hiechyd, ein lles. Mae cymaint o bobl eisiau edrych ar ôl eu hunain ychydig yn well."

Disgrifiad o’r llun,

O fragu yn eu fflat, mae Drop Bear bellach wedi tyfu'n aruthrol

Mae cael y dewis o ddiodydd di-alcohol mewn tafarndai a chlybiau yn gam pwysig, meddai Emily.

Dywedodd ei bod wedi pwysleisio i'w theulu a'i ffrindiau ei bod yn rhoi'r gorau i alcohol a'i bod wedi ceisio rhoi neges glir iddyn nhw.

"Beth oedd yn allweddol i fi oedd dweud yn glir 'sa i'n yfed'.

"Os ti'n hollol glir efo pobl ma' pobl yn mynd i barchu fe dwi'n meddwl o'n i'n lwcus iawn, roedd fy ffrindiau a fy nheulu mor gefnogol, ond dwi'n cydnabod ei fod yn gallu bod yn anodd."

'Chwilio am gymuned newydd'

Dywedodd Emily iddi fynd ar "Facebook ac Instagram i chwilio am gymuned a nes i ffeindio Sober Gals Wales a da ni'n neud lot o stwff efo'n gilydd".

Ychwanegodd Emily bod y cyfryngau cymdeithasol wedi cynnig syniadau ac ysbrydoliaeth iddi, o wrando ar bodlediadau, fideos a ryseitiau mocktails ar TikTok.

Ers cyfnod Covid, mae nifer o bethau wedi newid, meddai Emily, gan gynnwys agweddau pobl tuag at alcohol.

"Dwi'n meddwl bod llawer o bobl wedi yfed gormod yn y pandemig ac o bosib wedi cael braw.

"Roedd pawb wedi diflasu yn ystod y pandemig ac roedd alcohol yn neud iddo fe deimlo'n haws.

"Mae newid anferth wedi bod a bydd 'na yn y dyfodol siŵr o fod."

Pynciau cysylltiedig