Parth di-alcohol parhaol i rygbi yn Stadiwm Principality

  • Cyhoeddwyd
cefnogwyr CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhan helaeth o'r stadiwm yn parhau i ganiatáu alcohol o dan y cynlluniau newydd

Bydd parthau di-alcohol parhaol ar gyfer gemau rygbi yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, yn ôl Undeb Rygbi Cymru (URC).

Dywedodd yr undeb y byddai'r parthau'n cael eu sefydlu yn dilyn llwyddiant treialon ac arolwg.

Mae'r undeb yn dweud bod 40,000 o gefnogwyr wedi "pleidleisio gyda'i waledi" drwy brynu tocynnau mewn ardaloedd di-alcohol penodol.

Cafodd y syniad ei gynnig yn 2017 yn dilyn cwynion am gefnogwyr meddw, cyn cael ei dreialu yn 2018.

Dywedodd URC y byddai'r parth di-alcohol mewn grym ar gyfer pob digwyddiad dan reolaeth yr undeb, gyda'r parth parhaol yn dechrau yng ngêm Cymru yn erbyn y Barbariaid ym mis Tachwedd.

Bydd pobl sydd â thocynnau parhaol yn y stadiwm yn cael cyfle i symud i'r parth di-alcohol - sydd â 4,200 o seddi - os ydyn nhw'n dymuno.

Dywedodd Prif Weithredwr URC, Martyn Phillips, bod y treialon "wedi profi bod 'na alw" am y cynllun.

Ychwanegodd y byddai'r undeb yn "buddsoddi ymhellach" i wella'r dewis o fwyd a diodydd di-alcohol sydd ar gael yn y stadiwm.