Wrecsam: Cerddwr wedi marw wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Roedd y llu wedi derbyn adroddiad bod dyn yn cerdded ar yr A483 tua'r gogledd rhwng Cyffyrdddd 4 (A525 Ffordd Rhuthun) a 5 (cyfnewidfa Ffordd yr Wyddgrug)
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Wrecsam nos Sadwrn.
Cafodd yr heddlu eu galw toc wedi hanner nos wedi i gerddwr gael ei daro gan gerbyd ar yr A483.
Cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd fod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle ac mae ei deulu a'r crwner wedi'u hysbysu.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Donna Vernon: "Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dyn ar yr adeg anodd hon.
"Rwy'n annog unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A483 ar adeg y digwyddiad, neu unrhyw un a allai fod â lluniau camera cerbyd i gysylltu â ni."
Bu'r ffordd ar gau am gyfnod.