Mudiad Meithrin yn galw am beidio torri cyllid sector gofal plant

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pontrhydfendigaid: Cylch Meithrin Gorau Cymru

Mae angen amddiffyn y sector gofal plant rhag toriadau, yn ôl Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.

Yn ôl Dr Gwenllian Lansdown Davies, mae'r maes yn un sydd wedi cael ei "dan-ariannu ers blynyddoedd" ac wedi wynebu her recriwtio "ers degawdau".

Mae pryderon y gallai'r sefyllfa waethygu gyda thoriadau arfaethedig Llywodraeth Cymru.

Fe ddaw sylwadau Ms Davies wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai'r sector, fel sawl un arall, yn wynebu toriadau.

Dyw union fanylion y toriadau ddim yn glir eto.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwaith pwysig y sector gofal plant wrth gefnogi plant a theuluoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid wobrau Cylch Meithrin Gorau y De-Orllewin, Arweinydd gorau a'r Cynorthwydd gorau

Yng ngwobrau Cylchoedd Meithrin Cymru ganol mis Hydref, Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion ddaeth i'r brig fel Cylch Meithrin gorau Cymru.

Yn ogystal â hynny, fe enillon nhw wobrau Cylch Meithrin Gorau y De-Orllewin, Arweinydd gorau a Chynorthwydd gorau.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Gwen Davies, mae'n anodd dod o hyd i staff gyda'r cymwysterau priodol

Ond dyw cyrraedd uchelfannau'r sector gofal plant ddim wedi bod heb eu heriau, yn ôl Gwen Davies, arweinydd Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid.

"Ma' cael aelod arall o staff banc sydd gyda cymhwyster yn anodd iawn i'w ffeindio," meddai.

"Ma' hi wedi bod yn bach o struggle i ffeindio rhywun i ddod i weithio 'ma gyda cymwysterau. Mae'n anodd iawn ffeindio nhw."

Gyda rhagor o doriadau i ddod, mae Gwen yn poeni am beth allai ddod rownd y gornel.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o gylchoedd meithrin yn ei gweld hi'n anodd recriwtio staff

"Ni gyd yn poeni. Ma' gyda ni gyd deuluoedd, a pethe i'w dalu. Mae e yn becso ni gyd," meddai.

"Ni wedi bod yn lwcus iawn gyda llawer o grantiau. Ond fi'n gwbod ar un adeg roedd cylchoedd meithrin ar eu pengliniau, dim arian yn y cyfrif banc a ddim yn gwbod ble fydde'r arian i'n talu ni yn dod o nesa."

Disgrifiad,

Gwawr Evans, Cadeirydd Pwyllgor Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid

Mae'n ddarlun sy'n cael ei ategu gan Gwawr Evans, cadeirydd Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid.

"Os oes salwch gyda'r staff, yn anffodus falle ni'n gorfod cau yn y prynhawn neu mae rhai aelodau o'r pwyllgor yn gorfod dod mewn i helpu. Felly ydy, mae yn her ar hyn o bryd."

Galw am beidio â chyflwyno toriadau i'r sector gofal plant mae Prif Weithredwr Mudiad Meithrin Cymru, Dr Gwenllian Lansdown Davies.

"Mi fydda rywun yn gobeithio y bydda gofal plant fel maes sydd heb dderbyn llawer o fuddsoddiad yn draddodiadol, yn cael ei amddiffyn, oherwydd 'da ni fel mudiad, fel mudiadau eraill, wedi bod yn uchel ein cloch ar hyd y blynyddoedd bod angen mwy o fuddsoddiad.

"Yr angen i recriwtio i mewn i'r sector, yr angen i 'neud yn siŵr bod gyda ni bobl sydd yn gymwys, pobl sydd â sgiliau iaith."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn buddsoddi dros £170m yn y maes

Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi dros £100m mewn darpariaeth gofal plant trwy gynlluniau Dechrau'n Deg a'r Cynnig Gofal Plant.

Mae £70m hefyd yn cael ei wario mewn buddsoddiad cyfalaf yn y sector, ac maen nhw hefyd yn darparu cymorth uniongyrchol i'r gweithlu drwy hyfforddiant a datblygu.

Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud bod safleoedd gofal plant sydd wedi eu cofrestru yn cael rhyddhad o 100% ar drethi busnes.

Byddan nhw'n parhau i weithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, meddai'r llywodraeth, i hyrwyddo cyfleoedd gwaith o fewn y sector gofal plant.