WXV1: Seland Newydd 70-7 Cymru
- Cyhoeddwyd
Colli yn drwm oedd hanes Cymru yn eu hail gêm yng nghystadleuaeth y WXV yn erbyn Seland Newydd, gyda phencampwyr y byd yn sgorio 12 cais
Y Black Ferns oedd yn llwyr reoli'r chwarae o'r cychwyn cyntaf yn Dunedin.
Er iddi gymryd 12 munud i Seland Newydd sgorio eu cais cyntaf, aethon nhw yn eu blaenau i sgorio pedwar arall cyn hanner amser.
Asgellwyr Seland Newydd oedd y prif fygythiad drwy gydol y gêm - Ruby Tui yn sgorio pedwar cais, a Mererangi Paul yn sgorio tri.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i amddiffyn Cymru ar ôl i'r cefnwr ifanc Nel Metcalfe - oedd yn dechrau gêm am y tro cyntaf i'r tîm rhyngwladol - dderbyn cerdyn melyn am dynnu gwallt.
Wedi'r egwyl, fe sgoriodd Abbie Fleming unig gais y crysau cochion yn dilyn gwaith da gan y blaenwyr.
Ar adegau, fe wnaeth Lleucu George a Jasmine Joyce fygwth amddiffyn Seland Newydd gyda'u ciciau uchel, ond doedd Cymru methu cynnal y pwysau yn ddigon hir i roi'r tîm cartref dan unrhyw bwysau gwirioneddol.
Cafodd unrhyw obeithion o frwydro nôl eu chwalu wrth i Seland Newydd sgorio saith cais arall yn yr ail hanner.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham: "Mae'r canlyniad yn un anodd iawn i'w dderbyn... mae'n dangos bod gennym ni wersi mawr i'w dysgu a'r gobaith yw lleihau'r bwlch yna yn y pendraw."
Mae Cymru ar waelod grŵp WXV1, ac yn chwarae yn erbyn Awstralia yn eu gem olaf yn y gystadleuaeth ddydd Gwener.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2023