Arestio dau ar amheuaeth o lofruddio dyn yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Pentre GwynFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Pentre Gwyn am tua 18:14 nos Lun

Mae dau o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yn Wrecsam.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn ardal Pentre Gwyn am tua 18:14 nos Lun, ond bu farw'r dyn 40 oed yn y fan a'r lle.

Mae'r ddau a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.

Dywedodd y Prif Arolygydd, Mark Hughes eu bod yn "cadw meddwl agored ynglŷn â'r amgylchiadau arweiniodd at y farwolaeth".

"Rydyn ni yn nyddiau cynnar yr ymchwiliad ar hyn o bryd, ond hoffwn bwysleisio nad ydyn ni'n credu bod yna unrhyw berygl ehangach i'r gymuned," meddai.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth allai fod o ddefnydd i'r ymchwiliad, i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig