Diwrnod olaf i wasanaeth Bwcabws Ceredigion a Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Bwcabws
Disgrifiad o’r llun,

Ers 2009, mae pobl yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi gallu trefnu amser cyfleus i'r Bwcabws eu casglu a'u cludo

Bydd gwasanaeth bws cymunedol Bwcabws yn dod i ben ddydd Mawrth yn siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin.

Ers 2009, mae'r gwasanaeth wedi rhoi cyfle i bobl mewn ardaloedd gwledig yn y de-orllewin drefnu amser cyfleus i'r bws eu casglu o garreg y drws.

Mae Cyngor Sir Penfro wedi ariannu cynllun newydd i gymryd lle Bwcabws yno, ond o ddydd Mercher ymlaen ni fydd gwasanaeth o'r fath yn y ddwy sir arall.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad oes arian i gynnal y gwasanaeth ar ôl Brexit, a'u bod yn trafod opsiynau eraill gyda Thrafnidiaeth Cymru, cynghorau a chymunedau.

Ond yn ôl rhai mae diwedd y Bwcabws yn golygu nad oes opsiynau eraill mewn sawl ardal wledig fydd yn cael eu gadael heb wasanaeth.

'Hollol hanfodol i bobl cefn gwlad'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Llywydd Age Cymru Ceredigion, Lyndon Lloyd, fod 'na "deimlad cryf iawn iawn yn ne Ceredigion a Sir Gâr" ynglŷn â cholli'r gwasanaeth.

"Maen nhw wedi cau swyddfeydd post hen bentrefi fel Rhydlewis a Beulah a phentrefi arall, felly y'ch chi'n gorfod mynd i Landysul neu i Gastell Newydd i gael tipyn o bensiwn," meddai.

"Ac wrth gwrs mae'r banc bellach yn y swyddfeydd post - maen nhw wedi cau'r banciau - felly mae'r linc yma gan y Bwcabws yn hollol hanfodol i bobl cefn gwlad."

Ategwyd hyn gan Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a ddywedodd fod gwasanaethau o'r fath wedi eu disgrifio fel "achubiaeth" i lawer o bobl hŷn.

Disgrifiad o’r llun,

Heléna Herklots: "Mae'n destun pryder bod gwasanaeth trafnidiaeth gwerthfawr arall wedi cael ei golli oherwydd diffyg cyllid"

"Rwy'n gwybod bod Bwcabus wedi darparu llawer iawn o gefnogaeth i lawer o bobl hŷn ledled gorllewin Cymru dros y blynyddoedd, gan alluogi pobl i fynd allan, gwneud y pethau sy'n bwysig iddyn nhw a pharhau i fod yn annibynnol," meddai.

"Mae cynlluniau trafnidiaeth gymunedol fel Bwcabus yn aml yn cael eu disgrifio fel 'achubiaeth' gan bobl hŷn, yn enwedig y rheiny sy'n byw mewn ardaloedd gwledig neu oddi wrth lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'n destun pryder bod gwasanaeth trafnidiaeth gwerthfawr arall wedi cael ei golli oherwydd diffyg cyllid."

'Becso beth sy'n mynd i ddigwydd'

Mae Dolen Teifi yn elusen sy'n helpu pobl gyda thrafnidiaeth yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion, ond maen nhw'n poeni na fyddan nhw'n gallu ateb y galw yn dilyn y bwlch fydd yn cael ei adael gan Bwcabws.

Dywedodd Rod Bowen o'r elusen eu bod yn cael degau o alwadau yn wythnosol gan bobl sy'n "becso beth sy'n mynd i ddigwydd, a sut maen nhw am allu mynd i'r gwaith, i'r doctor a ballu".

Disgrifiad o’r llun,

Rod Bowen: "Dim ond arian sy'n mynd i helpu ni i symud 'mlaen yn y dyfodol"

Mae'r galw ar Dolen Teifi eisoes wedi cynyddu 300%, meddai, sy'n dangos lefel y galw am wasanaethau trafnidiaeth cymunedol yng nghefn gwlad.

"Gwirfoddolwyr sy'n gyrru'r cerbydau i ni, a bydd hyn yn rhoi rhagor o waith i ni ar amser ble ni nawr yn 'neud mwy o waith nag erioed, fydd yn anodd," meddai Mr Bowen.

"Mae'r broblem mor enfawr, dim ond arian sy'n mynd i helpu ni i symud 'mlaen yn y dyfodol.

"Ond mae ffordd ymlaen i sortio'r problemau hyn, a chydweithio yw e - gyda'r Senedd, cynghorau sir, health boards a ni fel cludiant cymunedol - i 'neud yn siŵr bod y drafnidiaeth sydd gyda ni yng nghefn gwlad yn fit for purpose."

'Gwasanaeth mor bwysig'

Gan ddefnyddio rhan o'r gyllideb gwasanaeth bysiau lleol bresennol, mae Cyngor Sir Penfro wedi ariannu gwasanaeth newydd gyda'r gweithredwr Richards Bros, fydd yn gweithredu o fewn y sir o ddydd Mercher tan 31 Mawrth 2024.

Bydd y gwasanaeth yn gweithredu o 07:00 tan 18:30, o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda'r llwybrau sefydlog 642 a 644 yn parhau i weithredu.

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, aelod cabinet ar gyfer gwasanaethau preswylwyr: "Rwyf wrth fy modd bod y cyngor wedi gallu camu i'r adwy ac ariannu gwasanaeth newydd yn lle'r gwasanaeth Bwcabus tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, a diolchaf i'r swyddogion am eu gwaith ar hyn.

"Rydym ni'n gwybod bod y gwasanaeth mor bwysig i lawer o bobl yn rhai o'r ardaloedd mwyaf gwledig."

'Does yr un opsiwn arall i gael'

Ond ychwanegodd Lyndon Lloyd fod pobl de Ceredigion a Sir Gâr yn pryderu am y dyfodol.

"Mae rhai wedi colli priod ac yn dibynnu arno," meddai.

"Mi ddangosodd y cyfarfod cyhoeddus fod pobl ifanc hefyd, gyda rhai yn dibynnu ar y ganolfan iechyd meddwl neu ag anabledd a methu gyrru i fynd o ben draw cefn gwlad.

Disgrifiad o’r llun,

Lyndon Lloyd: "Yma mae'r linc yma gan y Bwcabus yn hollol hanfodol i bobl cefn gwlad"

"Does yr un opsiwn arall i gael. Does 'na ddim byd arall i helpu pobl cefn gwlad.

"Mae'r Bwcabus yn wasanaeth dros ardal eang iawn a mae 'na bobl yn dibynnu arno.

"Bydd 'na effaith seicolegol bydd pobl yn gofidio a bydd yn effeithio ar ei hiechyd nhw, yn enwedig eu hiechyd meddwl.

"Lle ro'n nhw'n annibynnol drwy fynd ar y bws i Gastell Newydd, Llandysul ac Aberteifi, bellach fyddan nhw'n gaeth i'w cartrefi.

"Dyw hwnna ddim yn deg i bobl cefn gwlad."

Disgrifiad,

Mae Teifwen Evans yn 'dibynnu'n llwyr' ar wasanaeth y Bwcabws

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er gwaethaf addewidion na fyddai Cymru geiniog ar ei cholled ar ôl Brexit, mae Llywodraeth y DU wedi methu â disodli cyllid ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth gwledig a gefnogwyd yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd.

"Yn anffodus, ni allwn felly barhau i gefnogi'r gwasanaeth Bwcabus.

"Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn newyddion siomedig i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth, ond rydym yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a Chymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol Cymru i archwilio opsiynau eraill."