Porthgain: Pryder dros gynlluniau parcio newydd

  • Cyhoeddwyd
Porthgain
Disgrifiad o’r llun,

Mae Porthgain yn adnabyddus am ei harddwch

Mae cynlluniau newydd ar gyfer trefniadau parcio yng nghanol pentref glan môr Porthgain yn Sir Benfro wedi gwylltio rhai pobl leol.

Y bwriad yw cyflwyno mesurau i ddatrys problemau sy'n codi pan bod cannoedd o geir yn cyrraedd y pentref ar y cyfnodau prysuraf adeg gwyliau.

Yn ôl Cyngor Sir Penfro mae'n "gyfle unigryw i ddatrys rhai o'r problemau parcio a thraffig y pentref".

Ond mae rhai pobl leol yn poeni am "ddinistrio cymeriad y pentref".

'Ddim yn dderbyniol'

Mae Porthgain yn bentref hardd a hanesyddol ac yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr. Ond dros y canrifoedd mae wedi gweld tipyn o newid.

Bu'n ganolfan bwysig i'r diwydiant llechi rhwng 1830-1850, ac yna yn cynhyrchu brics a chloddio gwenithfaen yn yr 1890au.

Disgrifiad o’r llun,

Pan fydd y maes parcio'n llawn ym mae pobl yn parcio ar hyd y ffordd sy'n arwain i mewn i Borthgain

Ond yn y 1930au fe gaeodd y chwarel a daeth y diwydiant i ben. O hynny ymlaen, twristiaeth a physgota oedd y prif ddiwydiannau. 

Un ffordd gul a serth sy'n arwain at Borthgain, ac ar ddiwrnod prysur gall hyd at 1,200 o geir fynd i mewn ac allan.

Does dim trefniadau parcio ffurfiol yn y pentref ar wahân i lecyn o dir lle modd gadael y car am ddim.

Y cyntaf i'r felin yw hi ac mae nifer o geir yn parcio ar ochr y ffordd. 

Ond mae cynllun newydd i newid trefniadau traffig y pentref yn achosi ffrae.

Tra'n derbyn bod angen cyflwyno peth gwelliannau, mae rhai pobl leol yn dadlau bod beth sydd yn cael ei drafod gan Gyngor Sir Penfro yn mynd yn rhy bell.

Mae'r cyngor wedi derbyn hyd at £300,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun dwy flynedd i geisio gwella'r sefyllfa o ran traffig a pharcio. 

Byddai'r gwaith, medd yr awdurdod, yn cael ei rannu'n ddau gam: gyda'r flwyddyn gyntaf yn ystyried dichonoldeb, ecoleg a nodi opsiynau, gyda'r dewis opsiwn a'r gwaith adeiladu yn digwydd yn yr ail.

Yn ôl y Cynghorydd Neil Prior, mae trafodaethau a phobl leol yn parhau, ond dyw'r sefyllfa bresennol "ddim yn dderbyniol".

'Cadw fe'n naturiol'

Ond mae Meirion Robinson, sydd wedi byw yn y pentref ar hyd ei oes, yn poeni bod y cynllun newydd yn difetha cymeriad Porthgain.

"Ma' ishe 'neud r'wbeth i neud e yn fwy saff," meddai. 

Disgrifiad o’r llun,

"S'dim ishe colli cymeriad y pentre'," medd Meirion Robinson

"Mae'r parcio ar y ffordd mewn i'r pentref yn broblem. Mae ishe peth gwaith.

"Ma' pobl yn dod i Borthgain achos beth yw e, os bydd e'n cael ei altro efalle na fyddan nhw'n dod. 

"S'dim ishe 'neud gormod a s'dim ishe colli cymeriad y pentre'."

Mae ei dad, John hefyd yn byw yma. Fe ddaeth ei dad-cu i weithio yn y chwarel leol ac mae'r teulu wedi bod yn rhan o fywyd Porthgain am genedlaethau.

"Dy'n ni ddim mo'yn newid mawr. Oes ma' ishe peth newid, ma' raid i ni symud 'mla'n.

Disgrifiad o’r llun,

John Robinson: "Mae 'di bod yn naturiol dros y blynydde a bydde fe yn neis i gadw fe yn naturiol" 

"Ma' hwn yn bentre' sy' 'di datblygu yn araf iawn, ond dy' ni ddim ishe newidiade mawr.

"S'dim unman yn debyg i Borthgain. Os ydw i am goncrid slabs a planters neu pavements fe a'i i Hwlffordd, Abertawe neu Gaerfyrddin.

"Mae Porthgain yn naturiol. Mae 'di bod yn naturiol dros y blynydde a bydde fe yn neis i gadw fe yn naturiol." 

'Mae'r lle 'ma yn bwysig i ni'

Ar ddarn o dir yn yr harbwr mae rhai cychod yn cael eu cadw gan bysgotwyr lleol.

Yn eu plith mae Robert Jones, sydd hefyd yn berchen bwyty yn y pentref.

Disgrifiad o’r llun,

Robert Jones: "Mae'r lle 'ma yn bwysig i ni"

"Detho ni 'ma yn hanner ola'r 18fed ganrif i weithio yn y chwarel," meddai Robert, un o bedair cenhedlaeth o'i deulu sydd wedi pysgota yma.

"Mae'r lle 'ma yn bwysig i ni. Mae siarad nawr am newid y pentre' ond does dim sôn am le i gadw'r cychod.

"Y sôn ar y funed yw dodi fordydd picnic lle mae'r cychod."

Yn ôl y Cynghorydd Neil Prior mae pobl yn dod i Borthgain i weld y cychod yn gweithio a "dwi ddim yn meddwl y bydd cefnogaeth i unrhyw gynllun i symud y darn tir lle mae cychod yn cael eu parcio".

Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro: "Mae hwn yn gyfle unigryw i ddatrys rhai o'r problemau parcio a thraffig yn y pentref.

"Bydd unrhyw ddatrysiadau yn cael eu cytuno ar y cyd gan breswylwyr Porthgain, Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro."

Pynciau cysylltiedig