Iechyd: 'Yr argyfwng costau byw cyn waethed â'r pandemig'
- Cyhoeddwyd
Fe allai'r argyfwng costau byw fod cyn waethed i iechyd y genedl â'r pandemig, yn ôl prif feddyg Llywodraeth Cymru.
Mae Dr Frank Atherton yn rhybuddio y gallai effaith y cynnydd mewn costau byw greu niwed am "genedlaethau".
Yn ei adroddiad blynyddol, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn nodi mai'r bobl sy'n dioddef fwyaf, fel yn y pandemig, yw'r tlotaf.
"Gall holl effeithiau'r argyfwng costau byw ar iechyd a lles yn eu cyfanrwydd fod cyn waethed â pandemig Covid-19" meddai Syr Frank yn ei adroddiad.
"Mae llawer o'r niwed i iechyd ac anghydraddoldebau cynyddol y mae dinasyddion Cymru'n eu hwynebu yn sgil yr argyfwng costau byw - yn ogystal â phandemig Covid-19 cyn hynny - yn deillio o broblemau hirdymor sydd wedi ymwreiddio, megis tlodi, cyflogau isel, a stoc dai hŷn, sy'n llai effeithlon o ran ynni.
"Mae'r argyfwng costau byw yn rhoi rhagor o bwysau ar yr un problemau."
Ychwanegodd fod "gan yr argyfwng costau byw y potensial i effeithio ar bawb yng Nghymru, ond bydd yn cael mwy o effaith ar bobl sydd eisoes yn wynebu tlodi.
"Mae hyn yn debygol o gynnwys pobl ar incwm isel, pobl ddigartref, pobl sy'n byw gydag anableddau, pobl hŷn, plant, a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.
"Felly, bydd yr argyfwng costau byw'n cyflymu'r broses o gynyddu gwahaniaethau rhwng iechyd yr aelwydydd mwyaf cyfoethog a'r aelwydydd tlotaf yng Nghymru."
Effeithio ar 'les meddyliol a chorfforol'
Mae'r adroddiad yn nodi fod sicrhau bod gan bobl le cynnes a sych i fyw, bwyd maethlon a gwaith teg, yn sylfeini hanfodol ar gyfer byw bywyd iach.
Ond oherwydd bod costau ynni, bwyd a thanwydd wedi bod yn llawer uwch na'r cynnydd mewn cyflogau a thaliadau lles, mae Syr Frank yn rhybuddio fod hyn "yn golygu bod mwy o bobl yng Nghymru yn methu a fforddio'r sylfeini hanfodol hyn... gan arwain at ganlyniadau negyddol ar gyfer iechyd a lles meddyliol a chorfforol".
Mewn cyfweliad â BBC Cymru dywedodd Syr Frank y gallai'r effeithiau barhau am genedlaethau.
"Rydyn ni'n gwybod bod yr ergydion economaidd hyn i'r system yn cael effeithiau tymor hir... felly, mae 'na risg o greithio'r genhedlaeth nesaf," meddai.
"A dyna pam rwy'n credu y gallai'r bygythiad fod cymaint â bygythiad y pandemig Covid i'n hiechyd fel cenedl."
'Blaenoriaethu elw dros iechyd'
Yn ogystal, mae'r adroddiad yn galw ar fusnesau mawr i gymryd mwy o gyfrifoldeb am yr effaith niweidiol all eu cynnyrch ei gael ar iechyd unigolion.
"Cwmnïau mawr iawn sy'n aml yn gyfrifol am gynnyrch fel tybaco, alcohol, a bwyd a diod sydd ddim yn iach," meddai'r prif swyddog meddygol.
"Cwmnïau yw'r rhain sydd â chyllidebau marchnata enfawr sy'n blaenoriaethu elw dros iechyd y cyhoedd.
"Gall y cwmnïau yma dargedu lle maen nhw'n gwerthu eu cynnyrch... sy'n golygu ein bod wedi gweld dwysedd cynyddol o gamblo, bwyd cyflym a siopau alcohol mewn ardaloedd mwy difreintiedig."
Ond pwysleisiodd Syr Frank nad oedd yn galw am waharddiad ar y cynnyrch ar hyn o bryd, gan ychwanegu mai'r hyn mae'n galw amdano "yw bod busnesau mawr yn cymryd o ddifrif yr angen i addasu eu cynnyrch fel ein bod ni'n lleihau faint o siwgr a halen rydyn ni'n ei roi yn ddiangen yn ein cyrff".
"Ond, os nad yw'r diwydiannau rwy'n siarad amdanynt yn gallu cymryd eu rôl o ddifrif, yna mae angen i ni feddwl am sut y gall y llywodraeth ymateb i amddiffyn iechyd y boblogaeth."
'Cysylltiad pendant iawn hefo cyfoeth'
Yn ymateb i sylwadau Syr Frank Atherton fe ddywedodd Dr Eilir Hughes, sy'n feddyg teulu yn Nefyn ym Mhen Llŷn, fod "mwy a mwy o dystiolaeth am effaith niweidiol bwydydd wedi'u prosesu i lefel eithafol".
"Mae bwydydd fel hyn yn arwain at gynnydd o 10% yn y risg o ddatblygu cancr, codi'r risg o 25% o ddatblygu dementia, a hefyd yn codi'r risg o farwolaeth am unrhyw reswm o 20% i 60%.
"Mae pizza ffres heb ei brosesu yn costio £10, ond ewch i'r archfarchnad a phrynu pizza wedi ei or-brosesu, £1.50 i £2.
"Felly mae natur y bwyd 'da ni'n fwyta, mae 'na gysylltiad pendant iawn hefo cyfoeth ac mae hynny'n wir wedyn hefo elfennau eraill megis vapio a gamblo.
"Mae'r pethau 'ma i gyd yn cael eu cysylltu gydag anghydraddoldeb."
Ychwanegodd fod achos yma i gael mwy o wybodaeth i'r cyhoedd ac i bwysleisio gwerth bwyd.
"Mae 'na le pendant i gynhyrchwyr bwyd Cymru ddatblygu marchnad lle maen nhw'n gallu datblygu cynnyrch sydd yn iach a'i fod yn cael ei farchnata," meddai.
"Defnyddio'r un triciau â mae'r cwmnïau mawr yn ei ddefnyddio i hyrwyddo'i bwydydd eu hunain."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2023