Ymchwiliad i farwolaeth menyw, 42, ger Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i farwolaeth dynes, 42, o Fôn-y-maen ger Abertawe.
Dywed plismyn bod marwolaeth Rebekah Williams yn anesboniadwy.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i'w chartref ar Ffordd Myrddin ychydig cyn 20:50 nos Iau, 2 Tachwedd.
Mae ei theulu wedi cael gwybod am ei marwolaeth ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Wrth roi teyrnged iddi fe ddywedon nhw: "Roedd Rebekah yn ddynes gymhleth ond yn cael ei charu'n fawr gan ei theulu."
Mae dyn, 36, wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'i marwolaeth wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.
Dywedodd y Prif Arolygydd Matt Davies o Heddlu'r De: "Ry'n yn meddwl am deulu a ffrindiau Rebekah yn ystod y cyfnod hwn.
"Bydd mwy o blismyn yn yr ardal wrth i'n hymchwiliad i ganfod union achos ei marwolaeth barhau.
"Ry'n yn annog unrhyw un a oedd yn ardal Ffordd Myrddin nos Iau rhwng 20:00 a 21:00 a na sydd eto wedi siarad â'r heddlu i gysylltu â ni.
"Mae'n hanfodol ein bod yn gwybod beth ddigwyddodd - felly rwy'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â ni."