Arestio dau ddyn wedi ymosodiad yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
AbertaweFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ger tafarn y Villiers Arms yn ardal Hafod yn Abertawe

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod ar ddyn yn Abertawe.

Cafodd y dyn, 26, ei adael mewn cyflwr difrifol wedi'r ymosodiad ger tafarn y Villiers Arms ar Stryd y Bont yn ardal Hafod.

Wedi iddo deithio adref i Birmingham ar 21 Hydref, y diwrnod yr oedd Abertawe yn chwarae pêl-droed yn erbyn Caerlŷr, fe syrthiodd.

Yn gynharach dywedodd yr heddlu ei fod wedi gwrthod cymorth meddygol.

Cafodd y ddau ddyn, 29 a 31 - y naill o Sgeti a'r llall o Townhill - eu harestio ddydd Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig