Pedair yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Y grŵp gwerinol Pedair sydd wedi ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.
Mae Pedair, sef Gwenan Gibbard, Siân James, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym, yn ennill y wobr am yr albwm Mae 'na Olau.
Mae'r albwm yn cyfuno "alawon traddodiadol a gwreiddiol" a "harmonïau tyner yn cydblethu ag offeryniaeth gynnil".
Roedd naw albwm ar y rhestr fer eleni, gydag artistiaid fel Adwaith, Swnami a Fleur de Lys hefyd wedi eu henwebu.
Cyhoeddwyd enw'r enillwyr ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.
Mae'r wobr yn cael ei threfnu ar y cyd gyda BBC Radio Cymru, a'r nod yw "dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg" yng Nghymru ar hyn o bryd.
Y beirniaid eleni oedd Iwan Teifion Davies, Marged Siôn, Gwenno Roberts, Mirain Iwerydd, Dom James, Dafydd Hughes ac Aneirin Jones.
Mae pedwar aelod Pedair wedi cael wythnos brysur yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ymddangosodd y bedair ar y cyd yn y cyngerdd agoriadol, Y Curiad, gyda chôr gwerin yr ŵyl ddydd Sadwrn diwethaf.
Rhestr fer 2023
Adwaith - Bato Mato
Sŵnami - Sŵnamii
Pedair - Mae 'na Olau
Rogue Jones - Dos Bebes
Cerys Hafana - Edyf
Fleur de Lys - Fory ar ôl Heddiw
Kizzy Crawford - Cariad y Tir
Dafydd Owain - Uwch Dros y Pysgod
Avanc - YN FYW (Live)
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023
- Cyhoeddwyd11 Awst 2023
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2023