Disgwyl 'tswnami' o luniau anweddus o blant trwy AI

  • Cyhoeddwyd
Susie HargreavesFfynhonnell y llun, IWF
Disgrifiad o’r llun,

Mae Susie Hargreaves, prif weithredwr IWF, yn poeni am ddeunydd AI

Mae elusen sy'n ceisio dileu delweddau o gam-drin plant yn rhywiol o'r we yn rhybuddio y gall Cymru ddisgwyl "tswnami" o luniau anweddus o blant wedi eu creu trwy feddalwedd deallusrwydd artiffisial (AI).

Daw rhybudd yr Internet Watch Foundation (IWF) wedi i luniau o ferched ifanc o Sbaen gael eu haddasu trwy AI i wneud iddyn nhw ymddangos yn noeth, a'u rhannu wedyn ar-lein.

Mae mam un o'r merched wedi dweud wrth BBC Cymru fod "cannoedd" o rieni wedi cysylltu â hi yn dweud bod eu plant nhw hefyd wedi cael eu targedu.

Dywed uned troseddau trefnedig rhanbarthol Cymru nad ydyn nhw wedi gweld delweddau o'r math yma hyd yn hyn, ond maen nhw'n "disgwyl" y bydd hynny'n newid yn y dyfodol agos.

'Mae'n digwydd yn barod'

Yn ôl ei adroddiad, dolen allanol diweddaraf, daeth yr IWF ar draws 20,245 o luniau AI o fewn mis ar fforwm sy'n rhannu deunydd camdriniaeth plant.

Yn ogystal â'r lluniau, roedd yna sylwadau yn llongyfarch cynhyrchwyr ar wneud i'r lluniau edrych mor realistig, a dywedodd rhai defnyddwyr eu bod wedi creu delweddau o luniau roedden nhw wedi eu tynnu o blant mewn parc.

Yn ôl prif weithredwr yr IWF, Susie Hargreaves, mae angen mynd i'r afael â'r deunydd AI yma "ar frys", ac mae hi'n pryderu y bydd "tswnami" o luniau anweddus yn cael eu creu yn y dyfodol.

"Dyw hyn ddim yn rhywbeth sydd ar fin digwydd - mae'n digwydd yn barod," meddai.

'Arf dinistr'

Ym mis Medi, cafodd dros 20 o ferched rhwng 11-17 oed o bentref Almendralejo yn Sbaen, eu targedu ar ôl i luniau anweddus, wedi'u creu gan AI, eu rhannu ar-lein.

Roedd lluniau ohonyn nhw yn eu dillad arferol wedi cael eu haddasu fel eu bod yn ymddangos yn noeth.

Ffynhonnell y llun, Guy Hedgecoe/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Miriam Al Adib yn rhan o grŵp sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr a'u rhienu wedi i ddelweddau anweddus gael eu creu o'i merch ei hun

Yn eu plith roedd merch Miriam Al Adib - un o sylfaenwyr grŵp cymorth ar gyfer rhieni'r plant.

Ers sefydlu'r grŵp, mae'n dweud bod llawer o rieni eraill wedi cysylltu â hi, gan ddweud bod yr un peth iddyn nhw neu eu plant, a bod dim cefnogaeth ar gael i ddioddefwyr.

Dywed Mrs Al Adib bod y cyfuniad o fynediad i rwydweithiau cymdeithasol, pornograffi ac AI yn "arf dinistr". Mae hi'n erfyn ar bobl i wneud defnydd "cyfrifol" o dechnoleg, gan ddweud "allwn ni ddim caniatáu i'r pethau yma ddigwydd".

Rhan 'ganolog' ysgolion

Yr wythnos diwethaf, yn ystod cynadledd diogelwch AI gyntaf y DU, fe ymrwymodd yr Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman i fynd i'r afael â delweddau cam-drin plant wedi eu creu gydag AI.

Dywed Dr Tamasine Preece, arweinydd cwricwlwm Iechyd a Lles yn Ysgol Gyfun Bryntirion, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bod y cyfryngau cymdeithasol a ffonau clyfar wedi newid ei rôl fel athrawes yn "ddifesur" ers iddi ddechrau dysgu.

Mae'n "hollbwysig", meddai, "bod ysgolion yn chwarae rhan ganolog" o ran addysgu plant am faterion fel peryglon AI.

"Gallwn ni fel oedolion drafod y pethau 'ma yn agored mewn ffordd saff yn hytrach na'u bod yn tabŵ ac yn cael eu trafod [gan blant] ymysg ei gilydd gan rannu camwybodaeth," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Jeff Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dr Tamasine Preece ydy arweinydd cwricwlwm Iechyd a Lles yn Ysgol Gyfun Bryntirion

Dywedodd Tarian - yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol sy'n cwmpasu ardaloedd heddloedd De Cymru, Gwent a Dyfed-Powys - eu bod heb ddod ar draws delweddau o'r math hyd yn hyn.

"Mae'n amhosib dweud yn sicr nad oes unrhyw achosion yng Nghymru, ond does dim achosion sy'n hysbys i'r heddlu," dywedodd Sarah Keefe, Cydlynydd Camdriniaeth Plant Rhanbarthol Tarian.

"Fodd bynnag, rydym yn pryderu y bydd hynny'n newid."

Dywed yr uned bod ymateb i'r sefyllfa, o'r herwydd, yn "flaenoriaeth" ac yn fater sy'n cael ei gymryd o ddifrif.

Mae Sefydliad Lucy Faithful yn gweithio gyda throseddwyr er mwyn mynd i'r afael â chamdriniaeth yn erbyn plant.

Rhwng Awst 2021 a Medi 2022 fe gododd nifer yr ymwelwyr o Gymru â'u gwefan o 20,000 i 50,000, ac fe gysylltodd 268 o bobl â'u llinell gymorth gyfrinachol Stop It Now! yn yr un cyfnod.

Maen nhw hefyd newydd lansio gwasanaeth o'r enw Shore, dolen allanol yn arbennig ar gyfer cefnogi pobl ifanc.

Pynciau cysylltiedig