Terfysg Trelái: Ymateb comisiynydd yn 'briodol ac onest'
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru yn mynnu ei fod wedi gweithredu'n "briodol" pan ddywedodd wrth y cyfryngau nad oedd yr heddlu'n dilyn dau fachgen a gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.
Sbardunodd marwolaethau Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, derfysg yn ardal Trelái'r brifddinas ym mis Mai.
Yn dilyn marwolaethau'r ddau fachgen, oedd ar sgwter trydan, roedd yna honiadau ar y cyfryngau cymdeithasol bod fan yr heddlu wedi bod yn eu dilyn funudau cyn y gwrthdrawiad.
Ar y pryd, dywedodd comisiynydd heddlu'r rhanbarth, Alun Michael, bod y cysylltiad rhwng y gwrthdrawiad a'r anhrefn yn aneglur, ac nad oedd yr honiadau yn gywir.
Yn ddiweddarach fe wnaeth Heddlu'r De gydnabod eu bod nhw wedi dilyn y ddau fachgen am gyfnod cyn y gwrthdrawiad.
Ddydd Mercher bu Alun Michael yn ateb cwestiynau grŵp o ASau Cymreig yn San Steffan.
Gofynnodd cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, Stephen Crabb iddo a oedd wedi derbyn briff gan y Prif Gwnstabl ar y pryd.
"Wnaeth y Prif Gwnstabl ddim rhoi briff i mi, na," atebodd. "Roeddwn i yn ymwybodol o'r hyn oedd yn digwydd."
Gofynnodd Mr Crabb: "Felly sut oeddech chi mewn sefyllfa i gymryd safbwynt clir iawn o'r hyn a allai fod wedi digwydd neu beidio, o ran cerbydau'r heddlu yn dilyn y bobl ifanc dan sylw?
"Os na chawsoch eich briffio, sut oeddech chi mewn sefyllfa i wybod?"
Atebodd Mr Michael: "Roeddwn i wedi derbyn briff. Mi wnaethoch chi ofyn a ges i'r briff gan y Prif Gwnstabl."
"Felly wnaethoch chi siarad gyda rhywun arall yn yr heddlu?" gofynnodd Mr Crabb.
"Rwy'n credu bod hi'n eithaf pwysig deall y gwahaniaeth o ran cyfrifoldebau rhwng y Prif Gwnstabl, sydd â chyfrifoldeb dros faterion gweithredol, a'r PCC, sy'n unigolyn etholedig ac sydd, felly, yn gallu cymryd safbwynt gwleidyddol," esboniodd Mr Michael.
Fe wnaeth Stephen Crabb barhau i gwestiynu faint o wybodaeth oedd gan Mr Michael ar y pryd, o ystyried bod y sefyllfa yn dal i ddatblygu.
Unwaith eto, amddiffynnodd Alun Michael ei hun gan ddweud ei fod yn gwbl ffyddiog ei fod wedi ymateb mewn modd "briodol" ac "onest".
"Mi wnes i ymateb i gwestiynau gan y cyfryngau gyda'r wybodaeth gorau oedd gennym ni ar y pryd, yn fy rôl fel y cyswllt rhwng y cyhoedd a'r heddlu - nid fel rhywun a oedd yn siarad ar ran yr heddlu neu'n siarad ar ran y Prif Gwnstabl.
"Rwy'n fodlon bod yr hyn a wnes i yn briodol ar y pryd ac yn onest."
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn cynnal ymchwiliad i "unrhyw ryngweithiad" rhwng Heddlu De Cymru a'r ddau fachgen cyn y gwrthdrawiad.
Dywedodd Mr Michael wrth y pwyllgor ei fod yn "gobeithio y bydd canfyddiadau'r IOPC gyda ni cyn bo hir".
Ychwanegodd: "Mae'r IOPC wedi dweud y bydd yn cymryd rhwng tri a chwe mis i ddod i'w gasgliadau a chwe mis fydd diwedd y mis hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2023
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd28 Mai 2023