Trelái: Comisiynydd yn gwadu ochri gyda'r heddlu

  • Cyhoeddwyd
Alun Michael
Disgrifiad o’r llun,

Wrth siarad ar raglen Politics Wales fore Sul fe wnaeth Alun Michael wadu iddo ochri gormod gyda fersiwn yr heddlu yn hytrach na fersiwn y gymuned, o'r hyn ddigwyddodd

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru'n dweud ei bod hi'n bosib "bod yn edifar" nad oedd "ganddo'r darlun llawn" o'r hyn a ddigwyddodd yn Nhrelái yn y lle cyntaf.

Wrth siarad ar raglen Politics Wales fore Sul fe wnaeth Alun Michael wadu iddo ochri gormod gyda fersiwn yr heddlu yn hytrach na'r gymuned, o'r hyn ddigwyddodd yn yr ardal ddechrau'r wythnos.

Fe wnaeth marwolaethau Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, achosi anhrefn a arweiniodd at 15 o swyddogion yn cael eu hanafu a naw o bobl yn cael eu harestio.

Yn wreiddiol fe ddywedodd y comisiynydd nad oedd swyddogion yn "erlid" y ddau fachgen.

Disgrifiad,

17:59 - Fideo CCTV yn dangos fan heddlu'n dilyn dau berson ar sgwter neu feic

Yn ddiweddarach fe wnaeth lluniau teledu cylch cyfyng (CCTV) ddangos bod fan yr heddlu wedi dilyn y bechgyn cyn y gwrthdrawiad angheuol.

Fe gadarhaodd yr heddlu bod swyddogion wedi bod yn dilyn y ddau ond nid ar adeg y gwrthdrawiad.

Wrth gael ei holi a oedd yn edifar o gwbl am ei sylwadau cychwynnol atebodd Mr Michael: "Rwy'n credu ei bod yn bosib bod yn edifar nad oedd gennym y darlun llawn o'r cychwyn cyntaf.

"Rwy'n credu os ewch yn ôl a gwrando ar y cyfweliad gyda Claire Summers [ar Radio Wales]... fe glywch y ddau ohonom yn dweud bod yr union fanylion yn aneglur ar hyn o bryd."

Fe ofynnwyd i'r comisiynydd a wnaeth ochri gormod gyda fersiwn yr heddlu o'r digwyddiadau.

"Dwi ddim yn meddwl," atebodd Alun Michael.

"Roedd deuddydd wedi pasio cyn roedd hi'n bosib i'r dirprwy brif gwnstabl, yn nhermau'r heddlu, gael dealltwriaeth o'r digwyddiadau wedi iddyn nhw gynnal ymchwiliadau."

Ychwanegodd: "Y pwynt mwyaf pwysig roedd angen i fi egluro oedd a oedd gan yr heddlu ran uniongyrchol yn y gwrthdrawiad ffordd ac mae'r ateb yn parhau i fod yn 'na'."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hayley Murphy bod teulu Harvey yn benderfynol o gael cyfiawnder

Mae modryb un o'r ddau fachgen a gafodd eu lladd yn y gwrthdrawiad yn Nhrelái yn dweud ei bod hi'n credu mai'r heddlu sydd ar fai am eu marwolaethau.

Dywedodd Hayley Murphy, modryb Harvey Evans, fod y bechgyn "wedi'u herlid i'w marwolaeth gan Heddlu De Cymru".

Wrth gael ei holi am ei ymateb i'r sylwadau dywedodd Mr Michael: "Rwy'n credu 'nawn i aros i weld beth fydd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i'w ddweud am y symudiadau cyn y gwrthdrawiad ac, yn amlwg, unwaith y mae'r IOPC yn ymwchwilio mae'n rhaid i ni aros.

"Rwy'n gobeithio y bydd yn ymchwiliad buan."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ystod y cyfweliad fe wnaeth Mr Michael gytuno gyda sylwadau'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, sef bod perthynas yr heddlu a'r gymuned yn Nhrelái "o dan straen yn rhy aml".

Ychwanegodd: "Mae gan ardal Trelái ei heriau... ond hefyd ei chryfederau. Fe weithiais i yno am dros ddeng mlynedd flynyddoedd yn ôl ac rwy'n gyfarwydd â'r cryfderau rheiny a chynhesrwydd y gymuned.

"Mae llawer o'r pethau yma ddim yn bethau dros nos ac fe gafodd hynny ei gydnabod yn y cyfarfod a gadeirwyd gan Mark Drakeford ddydd Gwener.

"Mae nhw'n bethau hirdymor sydd angen buddsoddiad ac egni pob asiantaeth yn cydweithio," ychwanegodd Alun Michael.

Pynciau cysylltiedig