Gweithwyr Pizza Hut wedi'u diswyddo ar ôl cael eu haflonyddu

  • Cyhoeddwyd
Kailam Fearn a Sian Murphy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kailam Fearn yn gweithio mewn Pizza Hut ym Mhort Talbot, a Sian Murphy yng Nghastell-nedd

Cafodd dau o weithwyr Pizza Hut yn ne Cymru eu diswyddo'n annheg ar ôl codi pryderon am ymddygiad eu rheolwyr, yn ôl tribiwnlys cyflogaeth.

Cafodd Kailam Fearn, 27, a Sian Murphy, 28, o Resolfen ger Castell-nedd, eu diswyddo am gamymddygiad difrifol ym Mehefin 2021 ar ôl cwyno bod dau reolwr yn eu haflonyddu.

Roedd Mr Fearn a Ms Murphy - a oedd yn gweithio mewn bwytai gwahanol, yng Nghastell-nedd a Phort Talbot - wedi cwyno am ymddygiad misogynystaidd, hiliol, homoffobaidd a thrawsffobaidd.

Clywodd y gwrandawiad nad oedd perchnogion y busnes, Salamaan a Javeria Rasul, wedi ymchwilio'n ddigonol i'r cwynion ac wedi derbyn gair y ddau reolwr yn llwyr.

Roedd yna ymgais hefyd i atal gyrfa newydd Mr Fearn fel plismon drwy wneud honiadau difrifol amdano.

Bydd y gwrandawiad yng Nghaerdydd yn dyfarnu iawndal i Mr Fearn a Ms Murphy yn y flwyddyn newydd.

'Clwb iechyd meddwl'

Clywodd y gwrandawiad fod y rheolwr rhanbarthol, Dean Green, wedi aflonyddu ar Kailam Fearn drwy wneud sylwadau anweddus o natur rywiol ac awgrymu ei fod eisiau perthynas rywiol gydag ef, er bod Mr Green hefyd yn ymddwyn yn homoffobig ac yn bychanu staff hoyw.

Roedd honiadau fod Mr Green wedi dweud fod gan Mr Fearn goesau del, ac wedi anfon lluniau o'i hun yn y bath ato.

Honnir ei fod yn gwrthod cyfeirio at un aelod o staff trawsryweddol fel yr oedd y person yna'n dymuno iddo'i wneud, a byddai'n cyfeirio at fwyty Pizza Hut Port Talbot fel "clwb iechyd meddwl y bois" am fod gan fwy nag un aelod o staff yno broblemau iechyd meddwl.

Pan gafodd ei gwestiynu am y cwynion gan y perchennog Salamaan Rasul, ymateb Mr Green oedd: "Os nad ydy pobl yn gallu delio gyda banter, ddylen nhw ddim gweithio gyda fi."

Disgrifiad o’r llun,

Honnir fod rheolwr rhanbarthol Kailam Fearn ym Mhort Talbot wedi gwneud sylwadau anweddus o natur rywiol

Clywodd y tribiwnlys i reolwr Sian Murphy yng Nghastell-nedd aflonyddu arni drwy wneud sylwadau rhywiol am ei chorff, i'r graddau ei bod hi wedi newid ei gwisg yn y gwaith.

Clywodd y gwrandawiad y byddai Rhys Stephens yn sefyll mor agos fel ei bod hi'n poeni y byddai'n ei losgi wrth goginio.

Honnir y byddai Mr Stephens yn sôn wrthi ei fod yn gwylio deunydd pornograffig, a'i fod wedi cyfeirio at gydweithwyr fel "twpsyn hoyw" ar ôl iddo wneud camgymeriad gydag archeb.

Dywedwyd wrth y tribiwnlys hefyd y byddai'n gwawdio aelod o staff o dramor drwy ei alw'n Barry am "nad oes rhaid i mi ddysgu sut i ddweud ei enw iawn", ac yn siarad gydag ef mewn acen Indiaidd.

Cyhuddo o ddwyn saws a dŵr

Ar ôl tynnu sylw perchnogion y busnes at eu pryderon fe gafodd Mr Fearn a Ms Murphy eu hatal o'r gwaith a'u cyhuddo o gamymddwyn difrifol ac o ddwyn.

Cafodd Mr Fearn ei gyhuddo o ddwyn pecynnau saws, er bod hawl ganddo i gael pryd o fwyd yn y gwaith, tra bod Ms Murphy wedi ei chyhuddo o ddwyn potel ddŵr, er bod ganddi dderbynneb yn dangos iddi ei brynu.

Roedd perchnogion y busnes, S&J Enterprises Wales Limited (yn masnachu fel Pizza Hut), yn pori trwy luniau CCTV yn chwilio am dystiolaeth o gamymddwyn.

"Roedd hi'n amlwg," meddai'r tribiwnlys, "fod y rhai oedd yn wynebu cyhuddiadau wedi dyfeisio achos yn erbyn y ddau er mwyn eu diswyddo nhw."

Fe wnaeth y tribiwnlys hefyd ddyfarnu nad oedd Mr Fearn na Ms Murphy wedi cael cytundebau cyflogaeth addas 'chwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y tribiwnlys i reolwr Sian Murphy yng Nghastell-nedd aflonyddu arni drwy wneud sylwadau rhywiol am ei chorff

Yn ystod proses gymodi fe ddywedodd perchennog y busnesau wrth Mr Fearn y bydden nhw'n dweud wrth ei ddarpar gyflogwr ei fod wedi ei ddiswyddo am ddwyn.

Roedd Mr Fearn yn ceisio cael ei dderbyn i'r heddlu ar y pryd.

Yn ddiweddarach fe ddywedon nhw wrth yr heddlu eu bod yn poeni ei fod yn ceisio annog person bregus i wneud fideos pornograffig.

Cafodd ei atal o'i ddyletswyddau fel cwnstabl arbennig am wyth mis tra bod ymchwiliad yn digwydd. Doedd dim tystiolaeth i gefnogi'r honiad yn erbyn Mr Fearn.

Dywedodd Mr Fearn fod y digwyddiad wedi ei adael mewn gwewyr ac wedi cael effaith ar ei iechyd meddwl.

'Amseru'r gŵyn yn arwyddocaol'

"Roedd amseru'r gŵyn yn erbyn Mr Fearn yn arwyddocaol," meddai cadeirydd y panel.

"Roedd y gŵyn yn un maleisus am ei fod yn bwrw ymlaen â thribiwnlys cyflogaeth."

Canfu'r tribiwnlys fod Mr Fearn wedi'i ddiswyddo ar gam a bod ei hawliad yn seiliedig ar wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol, hil, anabledd, ailbennu rhywedd ac aflonyddu rhywiol yn llwyddiannus.

Yn yr achos a ddygwyd gan Ms Murphy canfu'r tribiwnlys ei bod wedi ei diswyddo ar gam, a bod ei honiad o aflonyddu rhywiol gan Dean Green a Rhys Stephens yn llwyddiannus gyda'r tribiwnlys hefyd wedi canfod bod S&J Enterprises Wales Limited (yn masnachu fel Pizza Hut) yn atebol am y gweithredoedd hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran Pizza Hut y DU ac Ewrop: "Ry'n ni'n cymryd y digwyddiadau yma yn ddifrifol iawn, ac mae gennym brosesau llym mewn lle y mae disgwyl i'n holl safleoedd eu dilyn.

"Ond gyda'r holl awdurdodau perthnasol yn rhan o'r peth, fyddwn ni ddim yn gwneud sylw pellach."