'Roedd Nain yn ysgrifenyddes i Syr Ifan ab Owen Edwards'
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth newydd gwersyll yr Urdd Glan-llyn wedi datgelu bod cysylltiad ei theulu gyda'r mudiad ieuenctid yn un sy'n ymestyn i'r cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd.
Mair Edwards o Ddinbych gafodd ei phenodi'n gyfarwyddwr newydd y gwersyll gweithgareddau awyr agored yn Llanuwchllyn, ger Y Bala, yn dilyn ymddeoliad Huw Antur.
Ond fe gafodd ei nain, Megan Davies, swydd fel ysgrifenyddes i'r mudiad yn y 1930au gan weithio i sylfaenydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards.
Eglurodd Mair ar raglen Dros Frecwast taw 15 oed oedd ei nain pan ddechreuodd ei swydd gyntaf yn "1936, 1937 ar Ffordd Llanbadarn yn Aberystwyth fel ysgrifenyddes - a'r bos, wrth gwrs, oedd Syr Ifan ar y pryd".
"Dyna lle ddaru hi ddysgu teipio am y tro cynta'," meddai am ei nain, a fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 102 wythnos nesaf.
"O'dd ei thad wedi prynu typewriter iddi, iddi allu ymarfer adra... ga'th hi chwe mlynedd efo'r Urdd a wedyn nath hi symud ymlaen yn ystod y rhyfel.
"'Dwi'n cofio mynd ati i ddeud 'tha hi bod fi'n ceisio am swydd gyda'r Urdd ac yn mynd am y swydd yn Glan-llyn ac o'dd hi'n mynd yn ôl ac yn cofio bob dim ac mae gynno hi atgofion melys iawn hefyd o fod yn gweithio i'r Urdd."
Nid dyma'r tro cyntaf i Mair Edwards weithio gyda'r Urdd - un o'i swyddi cyntaf ar ôl graddio oedd fel swyddog datblygu i'r Urdd yn Sir Ddinbych.
Roedd holl amrywiaeth y swydd honno - oedd yn cynnwys trefnu Eisteddfodau, digwyddiadau a chwaraeon a theithiau - yn "brofiad anhygoel" ac "yn sylfaen gadarn" i yrfa o weithio gyda phobl ifanc a datblygu prosiectau ar eu cyfer, meddai.
Ac er nad oedd yn chwilio am swydd newydd, pan welodd fod yr Urdd yn chwilio am gyfarwyddwr newydd i reoli gwersyll Glan-llyn "nath o apelio yn syth a dwi'n hynod falch bo' fi 'di ca'l y cyfle".
Mae £2m wedi ei fuddsoddi ar uwchraddio'r safle yn ddiweddar, diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru, a pharhau i sicrhau cyfleoedd a phrofiadau "o'r ansawdd uchaf" yw prif flaenoriaeth Mair Edwards.
Mae hefyd yn fwriad i "ymestyn y cyrhaeddiad" fel bod mwy o blant a phobl ifanc yn cael gwersylla yna.
"Mi fyddan ni'n gweithio efo asiantaethau trydydd sector a phartneriaethau sydd falle yn gweithio efo unigolion mwy bregus sydd tu allan i'r prif lif, o bosib," dywedodd.
Y gobaith hefyd yw parhau i sicrhau buddsoddiad fel bod Glan-llyn "efo'r cyfleusterau gorau heddiw... ac hefyd mewn 20 mlynedd a'r blynyddoedd i ddod".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd28 Medi 2023
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd31 Mai 2022