Dyn wedi taro gyrrwr parseli'n 'fwriadol' â'i fan ei hun

  • Cyhoeddwyd
Mark LangFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Lang yn yr ysbyty 18 diwrnod ar ôl caei ei daro gan ei fan ei hun a'i lusgo am ryw hanner milltir

Mae llys wedi clywed bod gyrrwr cludo parseli a gafodd ei ladd wedi i'w fan ei hun gael ei ddwyn yn "ddyn gweithgar oedd yn ceisio amddiffyn ei eiddo ac eiddo pobl eraill".

Bu farw Mark Lang, 54, yn yr ysbyty ar 15 Ebrill, 18 diwrnod ar ôl cael ei daro gan y fan a'i lusgo am ryw hanner milltir ar hyd un o ffyrdd prysuraf Caerdydd.

Mae Christopher El Gifari, sy'n 31 oed ac o Aberdâr, yn cyfaddef ei fod wedi cymryd y fan ac achosi marwolaeth Mr Lang, ond mae'n gwadu llofruddiaeth.

Mae hefyd yn gwadu cyhuddiad o ladrad (robbery) ond mae wedi pledio'n euog i ddwyn (theft).

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mark Lang ei daro ar Ffordd y Gogledd - un o'r prif ffyrdd i mewn ac allan o ganol y ddinas

Wrth amlinellu achos yr erlyniad yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd David Elias KC bod Mr Lang yn sefyll "yng nghanol y ffordd yn ei fest melyn llachar ac fe wnaeth y diffynnydd ei fwrw'n ddi-wyro".

Fe welodd y rheithgor ffotograffau o fonet y fan gyda tholc yn y canol, uwch ben y logo Renault.

"Mae'n rhaid bod Mr El Gifari wedi bod yn edrych yn syth arno," dywedodd Mr Elias.

Fe welodd y rheithgor luniau CCTV hefyd o'r gwrthdrawiad, ar Ffordd y Gogledd, a'r fan yn symud yn ei blaen.

Fe wylodd aelodau o deulu Mr Lang gan gysuro'i gilydd wrth weld y gwrthdrawiad sawl tro o wahanol onglau mewn lluniau symudiad araf.

'Bwriad i achosi niwed difrifol iawn o leiaf'

Dywedodd Mr Elias bod y fan yn cael ei gyrru "mor gyflym" ar hyd Ffordd y Gogledd nes bod camera cyflymder wedi fflachio i ddangos ei bod yn teithio ar gyflymdra o 47mya.

Aeth ymlaen i ddweud bod Mr El Gifari wedi gyrru'r fan "yn fwriadol" at Mr Lang, a'i fod wedi "penderfynu ei daro".

"Pan wnaeth y penderfyniad yna, mae'n rhaid ei fod o leiaf wedi bwriadu achosi niwed difrifol iawn i Mr Lang," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Christopher El Gifari yn euog i ddynladdiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth

Dywedodd Mark Graffius KC, sy'n amddiffyn Mr El Gifari, wrth y rheithgor y bydd yn dadlau mai'r bwriad oedd "i ddychryn" Mr Lang o'r ffordd.

Ychwanegodd nad oedd y diffynnydd yn bwriadu achosi niwed iddo ac yn meddwl y byddai'n symud "allan o'r ffordd".

Gweld 'person o dan y cerbyd'

Clywodd y llys dystiolaeth gan nifer o bobl sy'n byw neu'n gweithio yn ardal y gwrthdrawiad.

Roedd un wedi clywed "sŵn rhuo mawr" injan cerbyd tu allan i ddrws ei chartref, ac fe ddywedodd preswylydd arall bod y fan wedi taro wal ei ardd wrth newid cyfeiriad yn ei stryd.

Daeth menyw arall o hyd i ffôn ac esgid ddu yn y ffordd.

Roedd gweithiwr modurdy, wrth roi prawf i gerbyd, yn gyrru ar ochr arall Ffordd y Gogledd pan welodd fan yn teithio i'r cyfeiriad arall ar gyflymder.

Sylwodd ar rywbeth "dan flaen y fan rhwng yr olwynion oedd yn edrych fel côt lachar hyd tri chwarter".

Roedd tyst arall, a roddodd ei thystiolaeth tu ôl i sgrîn, yn gweithio gerllaw pan welodd ddyn "yn rhedeg yn wirioneddol gyflym" ac yna fan â drws agored.

"Ro'n i'n gallu gweld person o dan y cerbyd," dywedodd. "Roedd e gryn ffordd dan fonet y fan, reit o dan y cerbyd."

Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion heddlu yn safle'r gwrthdrawiad tu allan i Ysgol Uwchradd Cathays ar 28 Mawrth eleni

Clywodd y rheithgor bod fan Renault wen wedi mynd heibio ochr chwith cerbyd tyst arall a ddywedodd bod y fan yn cael ei gyrru'n "ddiofal... fel petai rhywun angen bod yn rhywle ar frys".

Roedd yna dystiolaeth hefyd gan yrrwr tacsi a gafodd ei stopio gan y diffynnydd a ofynnodd am gael ei gludo i Lanrhymni.

Fe stopiodd wrth siop Tesco, Heol y Plwca, ar gais Mr El Gifari oedd yn dweud bod angen codi arian o beiriant er mwyn ei dalu, ond ni welodd y diffynnydd wedyn wedi iddo adael y cerbyd.

Mae Christopher El Gifari yn gwadu cyhuddiadau o lofruddio a lladrad, ond yn pledio'n euog i ddynladdiad a dwyn.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig