Dyn yn cyfaddef lladd gyrrwr parseli ond yn gwadu ei lofruddio

  • Cyhoeddwyd
Mark LangFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Lang yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar 15 Ebrill eleni

Mae dyn wedi cyfaddef iddo ladd gyrrwr parseli gyda'i fan ei hun yng Nghaerdydd, ond mae'n gwadu ei lofruddio.

Bu farw Mark Lang, 54, yn yr ysbyty ar 15 Ebrill, dros bythefnos ar ôl cael ei anafu ar Ffordd y Gogledd.

Fe blediodd Christopher El Gifari, 31, yn euog i ddynladdiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.

Mae El Gifari, o Aberdâr, hefyd wedi'i gyhuddo o ddwyn fan Mr Lang a'r eiddo a oedd ynddi.

Plediodd yn ddieuog i ladrad (robbery) ond yn euog i ddwyn (theft).

Disgrifiad o’r llun,

Christopher El Gifari yn cyrraedd Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth

Clywodd y llys nad yw'r Goron yn derbyn y pledion hynny ac fe fydd yn wynebu achos o lofruddiaeth a lladrad.

Fe wnaeth reithgor dyngu llw brynhawn Mawrth, a bydd yr achos - a fydd yn cymryd hyd at bedair wythnos - yn dechrau ddydd Mercher.

Pynciau cysylltiedig