Virginia Crosbie: AS Môn i wynebu ymchwiliad Comisiynydd
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Virgina Crosbie y byddai'n "cydweithredu'n llawn â'r ymchwiliad"
Mae Virginia Crosbie, AS Ynys Môn, yn wynebu ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau Tŷ'r Cyffredin.
Mae'r honiadau yn ei herbyn yn ymwneud â "gweithgareddau sy'n achosi niwed sylweddol i enw da Tŷ'r Cyffredin neu ei aelodau".
Un arall sy'n wynebu ymchwiliad yw'r Dirprwy Lefarydd, y Fonesig Eleanor Laing.
Dyw'r comisiynydd, Daniel Greenberg, ddim wedi rhyddhau mwy o fanylion.
Yn y gorffennol, mae Ms Crosbie a'r Fonesig Laing wedi wynebu cwestiynau am ddigwyddiad yn y Senedd ar 8 Rhagfyr 2020 yn ystod cyfyngiadau Covid.
Mewn datganiad, dywedodd Ms Crosbie AS: "Fe fyddaf, wrth gwrs, yn cydweithredu'n llawn â'r ymchwiliad.
"Byddwn yn hoffi cadarnhau bod Heddlu'r Metropolitan wedi cysylltu â fi yn ystod mis Hydref gan ddweud na fyddwn yn derbyn Hysbysiad Gosb Benodedig yn sgil honiadau bod rheolau Covid wedi'u torri yn ystod digwyddiad a fynychais ar 8 Rhagfyr 2020."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2023