'Dim isie cywilydd' wrth siarad am ganser y ceilliau

  • Cyhoeddwyd
Iwan Williams a'i wraig CatFfynhonnell y llun, Iwan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Rai misoedd wedi iddo briodi, daeth Iwan Williams o hyd i ail lwmp

Mae dyn 34 oed o Gaerdydd sydd wedi cael canser y ceilliau ddwywaith yn dweud na ddylai dynion deimlo cywilydd wrth drafod y pwnc.

Cafodd Iwan Williams ei ddiagnosis cyntaf pan oedd yn yr ysgol, ond eleni - rai misoedd ar ôl priodi - fe ddaeth o hyd i lwmp arall.

"O'dd e'n fwy o sioc tro hyn. Fi'n credu o'n i'n poeni hefyd am yr effaith ar fy ngwraig," meddai.

"Mae e wedi bwrw fi. O'n i ddim yn gweld diwedd i'r peth."

Yn ôl un meddyg teulu o Sir Gaerfyrddin, fe ddylai pobl â cheilliau hunan-archwilio bob mis.

Dywedodd cadeirydd Cynghrair Canser Cymru fod yn rhaid gwneud mwy i roi hyder i bobl siarad yn agored a mynd at y meddyg.

Ffynhonnell y llun, Iwan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Williams bellach wedi cwblhau ei driniaeth yng Nghanolfan Felindre, Caerdydd

Fe ddaeth triniaeth radiotherapi Mr Williams i ben rai wythnosau yn ôl yng Nghanolfan Felindre, Caerdydd. Roedd eisoes wedi cwblhau cwrs cemotherapi.

Mae'n dweud i'r misoedd diwethaf gael effaith fawr ar ei iechyd meddwl.

"O'n i'n teimlo wedi blino o hyd. O'n i ddim yn gweld pryd o'dd e'n mynd i ddod i ben," dywedodd wrth raglen Newyddion S4C.

"Pan chi'n colli'r ail gaill, ma' probleme' ynglŷn â ffrwythlondeb a'r gobeithion o gael plant.

"Dwi'n ystyried defnyddio gwasanaeth cwnsela hefyd drwy Felindre.

"Mae e wedi bwrw fi - a fy ngwraig - ond pan ni'n teimlo'n isel, ni'n siarad."

Disgrifiad,

Cyngor meddygol gan Dr Llinos Roberts ar sut i archwilio'r ceilliau

Mae Mr Williams hefyd yn annog pobl i archwilio eu ceilliau yn gyson wrth ddilyn cyngor meddygol.

Dywedodd y meddyg teulu Dr Llinos Roberts: "Y peth pwysig ydy os 'dyn ni'n dal y canser yma'n gynnar, yna mae'r prognosis yn llawer, llawer gwell.

"Wrth archwilio, fe fydden i'n defnyddio'r bawd a'r ddau fys. Rhoi bawd o flaen y caill, dau fys tu ôl y caill, a rolio'r caill rhwng y bysedd wedyn.

"Archwilio'r arwynebedd a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw newidiadau."

'Sdim isie' cywilydd'

Mae ymgyrchoedd fel Movember yn ystod mis Tachwedd yn bwysig i godi ymwybyddiaeth, yn ôl Cynghrair Canser Cymru.

"Fis diwetha', mis Hydref, gafon ni breast cancer awareness month, a ma' Movember yn ymgyrch hollol bwysig i ddynion - mae wedi agor i fyny o ganser y brostad.

"Rŵan mae'n cynnwys canser y ceilliau ac iechyd meddwl dynion hefyd. Mae'n bwysig iawn."

Ychwanegodd Mr Williams mai'r peth pwysicaf y mae'n gallu ei wneud drwy rannu ei stori, yw ceisio annog eraill i gael sgwrs agored am y math o ganser ac iechyd meddwl.

"Mae'n hynod o bwysig bo' ni'n siarad. Fi'n credu bod tabŵ mawr o amgylch y pwnc, ond 'sdim isie' cywilydd."

Pynciau cysylltiedig