Fan i gynnig cyngor i ddynion sydd efo canser

  • Cyhoeddwyd
A man's moustacheFfynhonnell y llun, Movember
Disgrifiad o’r llun,

Yr elusen Movember sydd yn ariannu'r cynllun ac yn flynyddol mae dynion yn tyfu mwstas er mwyn codi proffil canser y brostad

Mae elusennau canser wedi lansio gwasanaeth newydd fydd yn cynnig gofal i ddynion efo canser mewn ardaloedd gwledig neu ddifreintiedig yng Nghymru.

Bydd y fan yn ymweld â'r byrddau iechyd i gyd a sawl lleoliad ar draws y wlad ac yn cael ei ariannu gan Movember.

Mae'r elusen wedi buddsoddi £600,000 yn y cynllun newydd ar gyfer dynion sydd efo canser y brostad a chanser y ceilliau.

Bydd y cynllun yn dechrau ym mis Ionawr.

Tyfu mwstas

Bwriad y gwasanaeth ydy cynnig cwnsela, profion iechyd a chyngor ynglŷn â budd-daliadau ac mi fydd yn cael ei rhedeg gan Tenovus a Chanser Prostad Prydain.

Y syniad tu ôl i enw Movember ydi bod dynion ym mis Tachwedd bob blwyddyn yn tyfu mwstas er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r ddau fath yma o ganser a chodi arian.

Mae dros 2,100 o ddynion yn cael gwybod bod ganddyn nhw ganser y brostad a chanser y ceilliau yng Nghymru bob blwyddyn.

Dywed yr elusennau bod angen fan fel hyn yn sgil gwaith ymchwil diweddar sydd wedi ymddangos yn y British Journal of Cancer.

Ymchwil

Roedd yr awduron yn dweud bod 'na bosibilrwydd bod mwy nag wyth o bob deg o ddynion ddim yn derbyn cymorth er mwyn osgoi unrhyw broblemau allai godi ar ôl triniaeth, problemau fel rhai seicolegol a rhywiol.

Yn ôl Sarah Coghlan o Movember mi fydd y fan yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl:

"Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod dynion a'u teuluoedd yn cael y cymorth a'r gefnogaeth maen nhw angen, pan maen nhw ei angen, sdim ots lle yn y wlad maen nhw'n byw.

"Mae cael eich diagnosio gyda chanser yn foment sydd yn newid eich bywyd ac i nifer mae'n gallu bod yn broses frawychus. Mi fydd y fan yn helpu dynion a'u teuluoedd ar hyd y daith ac wedi hynny hefyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol