Cynllun perfformio Môn yn rhoi profiadau 'bythgofiadwy'

  • Cyhoeddwyd
Dau berson yn perfformio
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc yn rhoi cyfle i bobl ifanc drefnu gigs eu hunain

Mae pobl ifanc sy'n rhan o gynllun cerddorol ar Ynys Môn wedi sôn am y cyfleoedd "bythgofiadwy" y mae'r cynllun yn ei roi iddyn nhw.

Mae Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc yn gynllun cerddorol sy'n rhoi cefnogaeth a chymorth i bobl ifanc Môn i greu band, neu i feithrin ac annog bandiau sydd wedi eu sefydlu yn barod.

Cafodd y cynllun ei sefydlu yn 2015 yn dilyn ymateb i geisiadau gan fandiau ifanc lleol am lwyfan i berfformio.

Mae'r cynllun yn cael ei redeg gan Menter Iaith Môn sy'n rhan o gwmni Menter Môn.

Mae Richard Owen yn swyddog prosiect Menter Iaith Môn ac yn arwain y cynllun. Dywed bod Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc "fel rhyw fath o glwb... mae plant ifanc rhwng 11 ac 18 yn gallu dod i greu cerddoriaeth, boed nhw'n gallu chwarae offeryn neu ddim a dod i greu ffrindiau newydd".

Disgrifiad o’r llun,

Richard Owen sy'n arwain y cynllun Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc

Mae cyfle hefyd i bobl ifanc sydd ar y cynllun gynnal gigiau.

Ychwanegodd Richard: "Mae Menter Iaith Môn yn cael tiwtoriaid profiadol i'w helpu nhw. 'Dan ni hefyd yn cael artistiaid Cymraeg mewn, lle mae cyfle wedyn iddyn nhw berfformio ar lwyfan mewn digwyddiadau fel Gŵyl Cefni er enghraifft."

Mae'r cynllun hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc gydweithio gyda bandiau enwog o Gymru.

"Mi ydan ni wedi cydweithio lot efo Maes B, mae 'na fandiau wedi chwarae efo Candelas, Fleur De Lys... Mae 'na rai aelodau wedi mynd ymlaen i brifysgol wedyn i astudio cerddoriaeth, felly mae 'na lot fawr o gyfleon da iddyn nhw.

"'Dan ni yma fel y man cychwyn fel petae - mae 'na gyfle i bawb yma."

Profiadau 'bythgofiadwy'

Mae Elliw a Carwyn yn ddau sydd wedi elwa o'r cynllun, ac yn mynychu'r sesiynau yn Llangefni.

Mae Carwyn wedi bod yn rhan o'r cynllun ers y llynedd ac roedd o'n awyddus i gael mwy o gyfleoedd i berfformio ar lwyfannau amrywiol.

"'Nes i ddechrau flwyddyn dwytha. 'Dw i wedi bod yn chwarae gitâr ers pan o'n i'n saith oed," meddai.

"'Dw i wedi dechrau chwarae'r drums hefyd a fel o'n i'n dod yn well yn chwarae'r offerynnau, o'n i'n teimlo mod i isio cael allan o'r tŷ a dechrau gigio ac ati a gallu chwarae ar lwyfannau yr un fath â bandiau eraill."

Ychwanegodd Carwyn mai ei hoff beth am gael bod yn rhan o'r cynllun oedd cael cyfle i fod ar y llwyfan.

"Flwyddyn dwytha, ges i chwarae yn Gŵyl Cefni ac mi oedd Bwncath ac Yws Gwynedd yn chwarae yno."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn ac Elliw yn elwa o gynllun Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc

Mae Elliw wedi ymuno â'r cynllun eleni ac yn deud fod mwy o bobl ifanc yn dangos diddordeb mewn cerddoriaeth erbyn heddiw.

Dywedodd: "Mae'r byd cerddorol wedi newid gymaint ac mae gennych chi agweddau gwahanol sy'n plesio gwahanol fathau o bobl... ac mae'r byd creadigol yn ffordd o ymestyn pwy ydyn nhw. Dwi'n meddwl fod cerddoriaeth a beth mae Rich yn ei gynnig yn galluogi i bobl 'neud hynny.

"Mae'n braf dod i 'nabod pobl newydd, pobl sydd â'r un diddordebau â chi... mae rhai yn hoffi cerddoriaeth gwahanol wedyn mae hynny yn ehangu dy flas di mewn cerddoriaeth."

Roedd Elliw hefyd yn awyddus i annog pobl ifanc eraill i fentro i'r byd cerddorol.

"Go for it! S'gen ti'm byd i golli... mae'r profiadau yn fythgofiadwy."