Arestio dau ar ôl i blentyn gael anafiadau difrifol yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Cafodd dau berson eu harestio ar ôl i blentyn gael anafiadau difrifol yn Sir Gâr.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod plentyn wedi ei gludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad yng Nglanaman ger Rhydaman ar 16 Tachwedd.
Mae'r plentyn bellach wedi ei symud i ysbyty arall.
Cafodd dau berson eu harestio, ac maen nhw bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd yr heddlu bod yr ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau, ac nad ydynt yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.