Manon Williams: 'Mae'n bwysig siarad am farwolaeth'

  • Cyhoeddwyd
Manon Williams yn dal ei gwobr

Mae'n bwysig i bobl fod yn fwy agored i drafod marwolaeth, yn ôl Manon Williams, un o sylfaenwyr cwmni Angladdau Enfys ym Mangor.

Mae cael y sgwrs yma yn bwysig am sawl rheswm, meddai Manon mewn cyfweliad ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru: "Mae marwolaeth yn rhywbeth mae pobl yng Nghymru yn enwedig yn teimlo ofn (amdano). Dwi'n deall hynny ond rhywbeth 'da ni wedi dysgu ydy bod trafod marwolaeth ddim yn golygu bod ti'n croesawu fo neu bod ti'n jinxio dy hun.

"Mae hyd yn oed ein teuluoedd ni wedi newid ers i ni agor Enfys - mae neiniau fi wedi dweud yn union beth maen nhw isho (o ran angladd) a dwi'n falch ofnadwy bod nhw wedi, mae Dad wedi dweud wrtha'i beth mae o isho.

"Mae gynno ni restr i bob un o beth maen nhw isho a dwi'n gwybod pan ddaw yr amser yna, 'neith o ddim neud colli nhw dim haws ond 'neith o roi llai o bwysau arno ni i drefnu'r angladd.

"Mae hynny'n rhywbeth pwysig. Mae 'na ddigon o bwysau ar rhywun yn barod - maen nhw'n galaru."

Llwyddiant

Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus i Manon, sy' newydd ennill gwobr genedlaethol am entrepreneur y flwyddyn.

Sefydlodd Manon, sy'n byw ym Methesda, y cwmni Angladdau Enfys ym mis Ionawr 2022 gyda'i ffrind gorau Louise White ar ôl mwynhau profiad gwaith gyda chwmni angladdau arall. Mae'r ddwy yn angerddol am drio torri'r tabŵ o drefnu angladdau.

Mae Manon yn falch iawn o'r gydnabyddiaeth diweddar yng ngwobrau elusen Chwarae Teg: "Oedd o'n fraint i gael fy enwebu, heb sôn am ennill.

"Oedd o'n sioc. 'Nes i anwybyddu'r ebost i ddweud gwir. Rhyw fis wedyn ges i alwad ffôn yn dweud bod fi wedi gwneud y rhestr fer.

Seremoni gwobrwyo

"'Nes i fynd lawr efo Nain i Gaerdydd i eistedd yn y neuadd anferth yma efo cannoedd o bobl eraill yn meddwl dwi byth yn mynd i ennill hwn a naethon nhw alw'n enw i ac o'n i jest yn ysgwyd, o'n i methu coelio bod fi wedi ennill a Nain yn crio wrth fy ochr i, yn falch ofnadwy. Braint mawr!"

Cychwyn busnes

Roedd diddordeb yn y maes angladdau wedi bod gan Manon ers amser ond y cyfnod clo wnaeth roi'r cyfle iddi gychwyn gwireddu ei breuddwyd, fel mae'n esbonio: "O'n i wedi bod eisiau gweithio yn y maes ers blynyddoedd, wedi cael plant a dal fy hun yn y rigmarole o weithio llawn amser i dalu biliau a ddim yn rili mwynhau be' o'n i'n neud.

"Yn ystod y cyfnod clo ges i gyfle i stopio ac i feddwl be' o'n i isho neud. Digwydd bod ar yr un pryd 'nath fy ffrind i golli dwy aelod o'i theulu mewn damwain ofnadwy. 'Nathon nhw ofyn i fi i gefnogi nhw efo gwisgo eu nain nhw am y tro diwethaf er mwyn iddyn nhw gael mynd i weld hi.

"Oedd o'n gymaint o fraint a 'nes i weld y gwahaniaeth oedd hynny wedi neud i'w theulu hi ac i galar ei mam hi yn enwedig. Ac o'n i jest methu ysgwyd y teimlad bod fi fod i neud hyn, bod fi'n gadael fy hun lawr os o'n i ddim yn neud o. Dyma o'n i 'di cael fy ngalw i wneud.

"Oedd o'n bwysig iddyn nhw bod eu nain nhw yn cael ei gwisgo gan rhywun oedd yn gyfarwydd iddi hi.

"Yn ystod cyfnod lle ti'n gwylio rhywun ti'n caru yn mynd trwy gymaint o alar mae cael neud rhywbeth i helpu yn neud i ti deimlo'n well, o'n i'n teimlo'n falch bod fi'n gallu neud rhywbeth i leihau'r pwysau oedd arnyn nhw fel teulu.

"Gyda ychydig o gefnogaeth gan fy ngŵr a'n nheulu 'nes i benderfynu bod fi'n mynd i sefydlu cwmni. Ac o'n i'n falch ofnadwy bod Louise wedi penderfynu ymuno efo fi ar y siwrne. Mae hi'n hanner o Enfys ac yr un mor bwysig â fi.

"'Nathon ni agor drysau Enfys ym mis Ionawr 2022. Dyma ni bron iawn dwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r cwmni yn ffynnu a 'dan ni'n mwynhau be' 'dan ni'n neud. Mae lot o waith caled yn mynd mewn iddo ond dydy o ddim yn teimlo fel gwaith."

Disgrifiad o’r llun,

Manon yn swyddfa Angladdau Enfys

Dewis

Yr hyn sy'n bwysig i Manon yw fod y cwmni'n cynnig dewis i bobl mewn cyfnod o alaru: "'Dan ni'n teimlo bod ni'n wahanol am bod ni'n teimlo'n gryf bod pobl yn haeddu cael dewis - dydan ni ddim yn rhoi cyfyngiadau ar beth ydy angladd.

"Be' 'dan ni'n gwneud ydy eistedd lawr efo'r teulu a gofyn iddyn nhw ddweud wrthan ni am y person sy' 'di marw - ac wedyn 'dan ni'n helpu nhw i 'neud penderfyniadau i greu angladd sy' wir yn adlewyrchu y person yna.

"'Dan ni'n teimlo fod o'n bwysig bod angladd yn adlewyrchu'r person.

"Er bod marwolaeth ddim yn hapus, dydy o ddim yn golygu bod yna ddim elfen yn gallu bod mewn angladd sy'n codi calon rhywun neu'n gwneud iddyn nhw chwerthin. Rheina ydy'n hoff angladdau i, lle mae straeon yn cael eu rhannu sy'n gwneud i bobl chwerthin nes bod nhw'n crio."

Ydyn ni fel cymdeithas angen newid y sgwrs o gwmpas marwolaeth?

Yn ôl Manon: "'Dan ni'n bendant yn gweld gwahaniaeth mewn teuluoedd sy' wedi trafod o flaen llaw. Pan mae teulu wedi trafod o flaen llaw maen nhw'n dod mewn ac yn dweud, dyna oedd Mam isho, dyna oedd Dad isho ac maen nhw'n teimlo'n hyderus yn eu dewisiadau am bod nhw'n gwybod bod nhw'n neud dewis sy'n addas i'r person yna.

"Weithiau dydi angladd ddim yn gorfod teimlo fel dathliad - mae'n gallu bod yn drist ofnadwy mewn angladd ond fod yr angladd yn adlewyrchu'r person yna, a dyna sy'n bwysig, bod o'n cychwyn y broses alaru mewn ffordd iach. Fel arall mae'n gallu 'neud lot o niwed os dydy rhywun ddim yn cael y cyfle yna i alaru."

Pynciau cysylltiedig