Cwmni trenau'n cyfaddef blaenoriaethu cefnogwyr rygbi
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni trenau Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi ymddiheuro i gefnogwyr pêl-droed ar ôl cyfaddef eu bod wedi rhoi blaenoriaeth i gemau rygbi wrth ddarparu trenau ychwanegol yn y gorffennol.
Mae cefnogwyr wedi cwyno am ddiffyg trenau a gwasanaeth sâl ar gyfer gemau rhyngwladol yng Nghaerdydd, yn enwedig i rai sy'n teithio o'r gogledd.
Yn ôl Aelodau o'r Senedd, roedd rhagor o drafferthion ddydd Mawrth pan oedd Cymru'n chwarae Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Dywedodd TrC fod prinder cerbydau ar draws y rhwydwaith ddydd Mawrth.
Roedd trenau newydd o ffatri ger Casnewydd wedi datblygu problemau gyda'u holwynion, meddai prif swyddog gweithrediadau TrC, Jan Chaudhry-Van Der Velde.
"Y canlyniad i hyn oll yw fod nifer o drenau wedi gorfod mynd i'r depos ar gyfer gwaith trwsio, felly nid oedd gennym gymaint o gerbydau a ddylai bod gennym ar gyfer teithiau gogledd-de ddoe (dydd Mawrth) ac mae'n ddrwg gennym am hynny," meddai.
'Angen gwneud yn well'
"Yn bersonol rwy'n credu'n gryf bod angen mwy o wytnwch a mwy o allu i wneud yn well ar ddyddiau pan mae digwyddiad arwyddocaol - a phêl-droed yn arbennig - nid ydym wedi canolbwyntio digon ar hynny," ychwanegodd.
Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor newid hinsawdd y Senedd, ychwanegodd: "Rydym yn canolbwyntio'n drwm ar rygbi. Rydym yn canolbwyntio'n drwm ar ddigwyddiadau diwylliannol mawr. Mae ein perfformiad wedi gwella'n sylweddol ar y ddau hynny.
"Yn draddodiadol, nid ydym wedi canolbwyntio ar bêl-droed, ond mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei wneud ac rydym am gyfarfod â'r gymdeithas bêl-droed.
"Rwyf yn ceisio bod yn onest ac ar y funud 'dyw ein perfformiad mewn digwyddiadau pêl-droed ddim cystal ac rydym eisiau gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny."
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Llyr Gruffydd ei fod wedi disgwyl chwe gwasanaeth o ogledd Cymru ddydd Mawrth, pob un gydag o leiaf dri cherbyd.
Ond ar ôl gweld lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol o drên gorlawn gyda dim ond dau gerbyd, gofynnodd: "Pam ydych chi bob amser yn ei gael o'n anghywir yn y digwyddiadau mawr hyn?
"Fory, fory, fory ydi hi bob tro. Rydych chi bob amser yn ymddiheuro," meddai.
"Os ydych chi'n gwybod am ddigwyddiad mawr, does bosib nad ydych chi'n gwneud rhyw fath o gynllun ar gyfer yr annisgwyl."
Roedd pethau'n mynd o'i le "bob tro" pan roedd digwyddiad mawr, "yn enwedig cysylltiadau gogledd-de", meddai.
Roedd y tren olaf o Gaerdydd i Wrecsam nos Fawrth i fod i adael am 22.05
Dywedodd Mr Gruffydd fod hynny'n "hurt" gan na fyddai ond yn caniatáu chwarter awr i gefnogwyr fynd o'r stadiwm i'r orsaf drenau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021