Trenau: 'Gwersi wedi eu dysgu' cyn gêm Gwlad Belg

  • Cyhoeddwyd
Pobl ar drên
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o'r trenau'n orlawn nos Sadwrn yn dilyn y gêm bêl-droed

Mae "gwersi wedi cael eu dysgu" gan Drafnidiaeth Cymru yn dilyn cwynion fod trenau'n orlawn nos Sadwrn ar ôl gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Belarws.

Dywedodd teithwyr nad oedden nhw'n teimlo'n ddiogel yn teithio ar y trên yn dilyn y gêm yng Nghaerdydd oherwydd nifer y bobl oedd ar y trenau, a'r nifer oedd ddim yn gwisgo mygydau.

Mae peidio gwisgo mwgwd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn erbyn rheolau Covid Cymru.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod y galw am drenau'n fwy na'r capasiti ar y penwythnos, a cheisiodd 600 o bobl deithio rhwng Caerdydd a Chasnewydd ar ôl y gêm.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud eu bod nhw wedi "dysgu gwersi" yn dilyn y penwythnos.

Daw wrth i filoedd o gefnogwyr Cymru heidio'n ôl i'r brifddinas ar gyfer gêm allweddol yn erbyn Gwlad Belg nos Fawrth.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredu Trafnidiaeth Cymru, Marie Daly, fod yna "broblemau gyda'r bysiau" ac mai hyn arweiniodd at amhariadau i wasanaethau trên dros y penwythnos.

"Rydyn ni'n ymddiheuro am yr effaith y cafodd hwn ar gwsmeriaid," meddai.

"Rydyn ni wedi cymryd y gwersi ry'n ni wedi dysgu o dan ystyriaeth wrth feddwl am gêm heno, gyda gwasanaethau gwell mewn lle ar gyfer ar ôl y gêm.

Ffynhonnell y llun, Ruth Crump
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i deithwyr sefyll yng nghoridorau'r trenau

"Ar drenau sy'n brysur fel rydych chi wedi gweld dros y penwythnos, mae wir yn anodd i Heddlu Trafnidiaeth Cymru gael trwy'r gwasanaethau yma.

"Felly rydyn ni wir angen i bobl weithio gyda ni a chymryd cyfrifoldeb am wisgo mygydau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Marie Daly bod pobl wedi cael eu gwrthod o fynd ar drenau os nad ydyn nhw'n gwisgo mwgwd

Dywedodd Ms Daly fod Trafnidiaeth Cymru wedi dosbarthu 6,000 o fygydau ers i gemau rygbi rhyngwladol yr hydref ddechrau.

"Rôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain yw deall pam nad yw pobl yn gwisgo mygydau, a hwnna yw'r peth cyntaf rydyn ni'n gwneud," meddai.

"Os mae pobl yn gwrthod gwisgo mwgwd, rydyn ni wedi cael adegau pan rydyn ni wedi gwrthod i bobl deithio oherwydd nad ydyn nhw'n dilyn y gyfraith."

Disgrifiad o’r llun,

(ch-dd) Jon Hughes, Chris Wojcikowski, a Mike Jones

Roedd Jon Hughes, Chris Wojcikowski a Mike Jones yn teithio'n ôl i Ben-y-bont ar drên prysur ar ôl y gêm nos Sadwrn.

Dywedodd Mr Wojcikowski: "Doedd dim llawer o opsiynau ar gyfer mynd i'r gorllewin tuag at Ben-y-bont felly dim ond cwpl o drenau oedd yno.

"Dwi'n credu bod llawer o bobl yn poeni os oedd trên yn mynd i gael ei ganslo roedd yn rhaid iddyn nhw fynd ar yr un nesaf, a dim ond dau coach oedd gan yr un nesaf, felly roedd yn llawn dop - pobl yn sefyll ym mhob man, hyd at y drysau - a doedden ni ddim yn disgwyl hynny.

"Roedd yn rhywbeth nad ydych chi'n gyffyrddus ag e, y math o amgylchedd cyfyng gyda chymysgedd o bobl yn gwisgo masgiau a ddim yn gwisgo masgiau, ond ar y pryd doedd gennym ni ddim llawer o ddewis."

Pynciau cysylltiedig