Siân Doyle yn beirniadu penderfyniad S4C i'w diswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-brif weithredwr S4C, Siân Doyle wedi cyhoeddi datganiad sy'n beirniadu'r penderfyniad i'w diswyddo.
Dydd Gwener dywedodd Awdurdod S4C fod aelodau wedi dod i'r "penderfyniad anodd ond unfrydol" i ddiswyddo Ms Doyle.
Daeth yn sgil tystiolaeth gafodd ei roi i gwmni cyfreithiol Capital Law, sydd wedi bod yn ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn S4C.
Nid yw manylion adroddiad Capital Law wedi eu rhyddhau'n llawn hyd yma.
Dywedodd y datganiad gan yr Awdurdod - sy'n gweithredu fel bwrdd y sianel - fod "natur a difrifoldeb y dystiolaeth a rannwyd yn peri gofid mawr".
Ond ychydig oriau ar ôl i Awdurdod S4C gyhoeddi'r diswyddiad, cyhoeddodd Ms Doyle ddatganiad ei hun yn gwneud honiadau difrifol.
'Triniaeth annheg a bwlio'
Yn y datganiad fe ddywedodd Ms Doyle: "Mae S4C yn sefydliad arbennig, ac mae hi wedi bod yn anrhydedd i gael bod yn Brif Weithredwr, ac i gael arwain tîm o bobl mor dalentog, ymroddgar a phroffesiynol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Heddiw, cefais i fy niswyddo gan Gadeirydd S4C, Rhodri Williams, fel rhan o'r hyn dwi'n ei gredu sy'n enghraifft o ddiffyg llywodraethu digynsail gan gorff cyhoeddus.
"Cefais wybod am y penderfyniad mewn llythyr, a hynny heb rybudd, heb gyfarfod a heb weld copi o ymchwiliad Capital Law na unrhyw dystiolaeth, heb gael cyfle i ymateb a heb reswm dilys y tu ôl i'r penderfyniad."
Mae Ms Doyle yn honni iddi wynebu "triniaeth annheg a bwlio ehangach" gan y Cadeirydd Rhodri Williams "dros y deufis diwethaf".
"Rwy'n credu i mi gael fy nhrin yn y ffordd yma oherwydd fy mod i wedi bod yn barod i sefyll i fyny i'r Cadeirydd a'i ymddygiad," meddai.
"Yn anffodus, rwy'n credu fod bod yn fenyw wedi bod yn ffactor sylweddol."
Fe wnaeth BBC Cymru gais i Rhodri Williams am sylw ond nid oedd am ychwanegu at y datganiad a roddwyd yn gynharach ddydd Gwener.
'Rhoi Cymru ar lwyfan y byd'
Ychwanegodd Ms Doyle: "Fe wnes i ymuno â S4C gan fod aelodau'r bwrdd wedi fy mherswadio i ddod allan o fy ymddeoliad ar ôl i mi dreulio 30 mlynedd yn gweithio o amgylch y byd yn ceisio sbarduno newid cadarnhaol.
"Fy ngweledigaeth fel Prif Weithredwr oedd mynd â chynyrchiadau anhygoel S4C a'u rhannu gyda'r byd, paratoi'r sianel ar gyfer y dyfodol digidol, a thrawsnewid y sefydliad.
"Rydw i'n falch iawn o'r hyn y mae S4C wedi ei gyflawni dan fy arweinyddiaeth."
Ychwanegodd: "Yn y 12 mis diwethaf, mae ffigyrau gwylio S4C yn yr amseroedd brig wedi cynyddu 16%; mae cynulleidfa wythnosol y sianel wedi cynyddu 8% - y perfformiad gorau mewn pum mlynedd; mae cyfran y gwylwyr rhwng 16-44 ar ei uchaf ers 10 mlynedd; mae'r sianel wedi llwyddo i ddal gafael ar wylwyr hŷn; ac mae proffil S4C wedi gwella ar hyd y wlad - dim yn unig ymhlith siaradwyr Cymraeg.
"Roedd fy nhîm yn gyfrifol am arwyddo cytundeb cyntaf S4C gyda Netflix i ddangos y ddrama Dal y Mellt ar y gwasanaeth, fe weithion ni gyda Ryan Reynolds er mwyn cyflwyno 'Welsh Wednesdays' ar ei sianel deledu Maximum Effort.
"Mae'r sianel bellach yn darlledu chwe awr o raglenni Cymraeg bob wythnos, rhywbeth sy'n galluogi S4C i fuddsoddi mwy mewn talent Cymraeg, a rhaglenni sy'n rhoi Cymru ar lwyfan y byd.
"Roeddwn i mor angerddol ynglŷn â pharhau ar y daith yma, a chyflawni'r weledigaeth gafodd ei gosod gan y bwrdd, ac rydw i'n hynod o drist bod y cyfle yma wedi cael ei gymryd oddi wrtha i."
Pwy yw Siân Doyle?
Dechreuodd Ms Doyle yn ei rôl fel prif weithredwr y sianel ym mis Ionawr 2022.
Cyn hynny roedd yn rheolwr gyfarwyddwr gyda chwmnïau telegyfathrebu TalkTalk a EE, a chyn hynny fe dreuliodd gyfnod fel uwch is-lywydd gyda chwmni Comcast Cable yn yr Unol Daleithiau.
Wrth gamu i'r swydd, dywedodd Ms Doyle ei bod yn "edrych ymlaen at arwain S4C wrth i'r sianel ymateb i'r newidiadau yn y tirwedd cyfryngau".
Roedd Ms Doyle yn ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy cyn symud ymlaen i astudio hanes a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Roedd adroddiad blynyddol S4C am 2022-23 yn nodi fod Ms Doyle yn derbyn cyflog blynyddol o £162,000.
Fis diwethaf, cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo o'i rôl fel Prif Swyddog Cynnwys S4C wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol" mewn bariau yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.
Yn dilyn hynny, roedd aelodau staff S4C wedi derbyn e-bost gan yr adran adnoddau dynol yn nodi fod y prif weithredwr, Ms Doyle, i ffwrdd o'i gwaith oherwydd salwch.
Ond yr wythnos hon, fe darodd Ms Griffin-Williams yn ôl, gan ddweud iddi gael ei diswyddo yn "annheg" ac iddi hi ddioddef "ymddygiad anaddas" yn ei herbyn.
Mewn llythyr drwy law ei chyfreithwyr at brif ohebydd rhaglen Newyddion S4C, Gwyn Loader, dywedodd Ms Griffin-Williams ei bod wedi "torri ei chalon" oherwydd ei "diswyddiad annheg".
Dywed iddi gael ei diswyddo gan Gadeirydd S4C, Rhodri Williams ac iddo "ymddwyn yn unigol heb yn wybod i'r Tîm Rheoli... a Bwrdd S4C".
Yn ôl S4C, fe gafodd Ms Griffin-Williams ei diswyddo "wedi iddyn nhw dderbyn honiadau am ei hymddygiad" ac ar sail "cyngor cyfreithiol manwl".
Gofynnwyd i Rhodri Williams am ymateb ar y pryd, ac fe gyfeiriodd ef at ddatganiad gan S4C ar ran aelodau anweithredol bwrdd y sianel.
Yn ôl y datganiad hwnnw, fe ddiswyddwyd Llinos Griffin-Williams "heb rybudd am sawl achos o gamymddwyn difrifol, yn dilyn derbyn honiadau am ei hymddygiad mewn digwyddiadau yn dilyn gêm Cwpan Rygbi'r Byd rhwng Cymru a Georgia" ar 7 Hydref.
"Yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd, a chyngor cyfreithiol manwl, penderfynodd Cadeirydd Bwrdd S4C i ddiswyddo'r unigolyn.
"Cafodd y penderfyniad ei gadarnhau wedyn gan aelodau anweithredol y Bwrdd."
'Problem ddifrifol'
Yn cyfeirio at ddiswyddiad Ms Doyle, dywedodd undeb darlledu Bectu fod "bwlio ac aflonyddu yn parhau yn broblem ddifrifol yn y diwydiannau creadigol, ac ry'n ni'n gobeithio y bydd y weithred bendant yma yn rhoi'r hyder i eraill adrodd ymddygiad anaddas".
"Ry'n ni'n edrych ymlaen at weithio gyda S4C i sicrhau diwylliant ble gall pawb deimlo'n hyderus ac wedi'u parchu yn y gweithle."
Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd2 Mai 2023