Plygain-iadur Rhagfyr 2023

  • Cyhoeddwyd
Llanfihangel
Disgrifiad o’r llun,

Plygain Llanfihangel yng Ngwynfa, a gynhaliwyd tan yn ddiweddar yn eglwys y plwyf

Os ydych chi'n un o'r rheiny sy'n hoffi ymestyn cyfnod y Nadolig mor hir â phosib, yna mae tymor y Plygain yn berffaith i chi! Mae rhai o'r gwasanaethau canu arbennig yma yn cael eu cynnal mor gynnar â diwedd mis Tachwedd ac mae'n arferol iddyn nhw barhau tan ddiwedd Ionawr.

Cyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd i ganu hen ganeuon traddodiadol y Nadolig yw'r Plygain. Mae'n draddodiad sydd yn mynd yn ôl canrifoedd.

Pryd mae eich gwasanaeth lleol chi, neu oes 'na un 'da chi wedi bod eisiau mynd iddyn nhw? Mae Cymru Fyw yma i helpu, gyda Phlygain-iadur cyfleus ar gyfer y tymor! Dyma Blygain-iadur mis Rhagfyr 2023... Cadwch lygaid am Blygain-iadur mis Ionawr ar ddechrau'r flwyddyn newydd.

Plygeiniau hyd at ddydd Nadolig...

Nos Wener 01/12

Eglwys Sant Silin, Llansilin - 19:30

Nos Sul 03/12

Capel y Tabernacl, Llanfyllin - 18:00

Nos Lun 04/12

Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr (St John the Baptist), Fleet Street, Coventry, CV1 3AY - 18:30

Nos Sul 10/12

Capel Penygraig, Croesyceiliog (ger Caerfyrddin), SA32 8DR - 18:30

Nos Fawrth 12/12

Capel Cymaeg, Y Trallwng - 19:00

Nos Fercher 13/12

Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth - 19:00

Nos Wener 15/12

Cadeirlan Tyddewi - 19:00

Capel China Street, Llanidloes - 19:30

Nos Sul 17/12

Eglwys Sant Pedr ad Vincula, Pennal - 17:00

Neuadd y pentref, Pontrobert - 18:00

Capel Hermon, Briw (ger Llangedwyn) - 19:00

Nos Lun 18/12

Capel Rhiwbeina, Caerdydd - 19:00

Nos Fawrth 19/12

Parc, y Bala - 19:00

Nos Iau 21/12

Eglwys Sant Cynfarch a'r Santes Fair, Llanfair Dyffryn Clwyd - 19:00

Eglwys Sant Ioan, Penrhyn-coch (dan nawdd Cymdeithas y Penrhyn) - 19:00

Nos Sul 24/12

Capel Rhos y Gad, Llanfairpwllgwyngyll - 19:00

Dydd Nadolig (bore) 25/12

Hen Gapel John Hughes, Pontrobert - 06:00

Capel Soar, Nercwys - 07:00

Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni - 07:00

Nos Fercher 27/12

Eglwys Sant Garmon, Llanarmon Dyffryn Ceiriog - 19:00

Cadw trefn

Mae grŵp o bobl yn gweithio'n ddiwyd yn ceisio rhoi trefn ar yr holl ddigwyddiadau, ac wedi creu adnodd lle allwch chi fynd i ddysgu mwy am y traddodiad arbennig hwn.

Ceris Gruffudd, Ffion Mair, Roy Griffiths, Rhian Davies, Gareth Williams ac Arfon Gwilym yw'r rhai y tu ôl i plygain.org, dolen allanol. Ewch draw yno am fwy o wybodaeth!

Sain unigryw y Plygain

Mae sain traddodiadol y Plygain yn un trawiadol. Dyma flas o'r hyn allwch chi ei glywed mewn gwasanaeth o'r fath, wedi ei recordio yn Llanfyllin yn 2019.

Disgrifiad,

Dathlu'r Plygain yn Llanfyllin

Os hoffech chi ychwanegu gwasanaeth Plygain i'n digwyddiadur e-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk

Hefyd o ddiddordeb: