Galar: 'Nofio dŵr oer yn fy neffro i eto'

  • Cyhoeddwyd
AlwenFfynhonnell y llun, Alwen Brierley Hughes
Disgrifiad o’r llun,

'Dwi ddim 'run un, ond mae 'na dal Alwen yna'

"Mae mynd i'r dŵr yn deffro wbath yndda i, mod i dal yma, mod i dal yr un person. Dwi ddim 'run un, ond mae 'na dal Alwen yna."

Fe gollodd Alwen Brierley Hughes o Forfa Bychan ei chwaer a'i mam mewn gwrthdrawiad ffordd yn ardal Garndolbenmaen ar 15 Gorffennaf 2020, dri mis ar ôl colli un o'i ffrindiau gorau.

Cafodd Alwen ei llethu gan alar ac erbyn ei phen-blwydd yn hanner cant ym mis Tachwedd 2020, doedd hi ddim eisiau byw.

Dair blynedd yn ddiweddarach, ar fis ei phen-blwydd yn 53 oed, mae Alwen wedi bod yn nofio mewn dŵr oer trwy gydol Tachwedd er mwyn codi arian i'r elusen galar Cruse.

Darparodd yr elusen gwnselydd iddi, ac yn ôl Alwen, cwnsela cyson ers y cyfnod cychwynnol roddodd gryfder iddi "anadlu diwrnod arall, wythnos arall".

Colli ffrind, mam a chwaer

Roedd Alwen eisoes yn galaru ers colli un o'i ffrindiau gorau, Chez, i waeledd sydyn ym mis Ebrill 2020, ynghanol y cyfnod clo cyntaf.

"Gafon ni ddim mynd i'r cynhebrwng, oeddan ni yn gorfod sefyll ar ochr lôn i ffarwelio efo hi, felly o'n i'n stryglo efo hynny'n barod," eglura Alwen.

"Wnes i golli hi ar 14 Ebrill, a 'nath y ddamwain ddigwydd ar 15 Gorffennaf 2020."

Erbyn hynny, roedd cyfyngiadau'r cyfnod clo yng Nghymru yn dechrau llacio ar ôl misoedd o gyfyngiadau llym. Gydag Alwen yn parhau i weithio yn y feddygfa leol, penderfynwyd bod ei mam, Nancy, yn creu swigen Covid gyda'i chwaer, Anwen.

Ffynhonnell y llun, Alwen Brierley Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Alwen (dde) gyda'i diweddar mam, Nancy, a'i chwaer, Anwen

Bythefnos yn ddiweddarach, derbyniodd Alwen newyddion a newidiodd ei bywyd.

"Ro'n i ar y ffordd adra o ngwaith a wnes i ffonio Mam, achos o'n i'n mynd i'w gweld.

"Oeddan ni ddim y cael mynd i mewn, oeddan ni heb gael cyffwrdd ynddi ers pedwar mis rili so o'n i wedi ffonio hi drwy bluetooth y car, a gofyn, 'Dach i isio rwbath… dwi'n pasio Aldi a Lidl 'wan' a dim atab.

"Wedyn o'n i'n meddwl, 'O mai 'di cael mynd am dro ar ôl bod yn tŷ mor hir."

Pan gyrhaedddodd Alwen adref roedd dau blismon a'i nith yn ei disgwyl. Cafodd Alwen wybod bod ei mam a'i chwaer wedi marw mewn gwrthdrawiad.

"Dwi jest yn cofio colli control o bob dim… dwi jest yn cofio bod ar y llawr… dwi'n cofio codi a dwi'n cofio sbio ar wefusa' fy nith a jest isio iddi gymryd o nôl a deud dydi o'm yn wir."

Cwnsela

Cafodd Alwen gefnogaeth gan swyddog cyswllt yr heddlu a'r elusen diogelwch y ffordd, Brake, yn syth.

Ddeufis ar ôl colli ei chwaer a'i mam, wrth i'r gefnogaeth gychwynnol bylu, cyfeiriodd Alwen ei hun am gefnogaeth gan elusen galar Cruse drwy wneud cais arlein gyda chymorth ei merch, Sophie.

"O'n i jest methu byw yn fy nghroen i fod yn onast. Un funud o'n i yn gwybod pwy o'n i, a munud nesa doedd gen i'm syniad," cofiai Alwen.

Ffynhonnell y llun, Alwen Brierley Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Alwen a'i mam

Cyslltodd yr elusen gyda hi wythnos yn ddiweddarach ac fe ddechreuodd Alwen y sesiynau cwnsela gydag un o'r gwirfoddolwyr.

"Ro'n i'n cael galwadau ffôn bob wythnos gan y cwnselydd. 'Swn i 'di licio fo wynab yn wynab ond roedd Covid yn atal hynny.

"Ond 'nes i ddatblygu perthynas efo'r cwnselydd 'run fath. Dorris oedd ei enw hi. O'n i di gofyn am rywun Cymraeg achos o'n i'n teimlo am mai dyna fy iaith i efo Mam a'n chwaer, oedd o'n bwysig i fi allu siarad fy nheimlada' yn iaith fy hun.

"Fues i mor ffodus. Roeddan nhw'n gyson ac oeddan nhw'n cysylltu bob wythnos."

Galar

Mae Alwen yn adlewyrchu ar ei galar o golli anwyliaid dan amgylchiadau anodd a sydyn:

"Mae o'n disbelief i ddechra' efo. Y diwrnod yna a'r noson yna yr unig beth o'n i isio 'neud oedd mynd i fflat Mam a mynd i'w gwely hi, jest i deimlo os oedd o dal yn gynnas.

"Dwi'n teimlo fel 'mod i ond wedi gallu galaru yn iawn am Mam am hir, felly mae'r broses yn un hir wrth i mi geisio galaru am fy chwaer hefyd."

Ffynhonnell y llun, Alwen Brierley Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Alwen (dde) gyda'i gŵr Jason, a'i chwaer Anwen yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion

"Efo galar dydi o ddim jest y gollad, mae o'n bob dim rownd y fo, fatha ti'n poeni am blant dy chwaer, ti'n teimlo'n rili unig hefyd, mor unig, lle o'n i'n teimlo fatha mond ar Mam o'n i'n gallu consyntretio, a o'n i'n gorfod smalio bod fy chwaer yn iawn yn ei thŷ.

"Mae yna dips, y dips ydi o i gyd."

Cynhaliaeth

Gydag amser, aeth y sesiynau wythnosol yn rhai misol yn ôl ei gofyn. Erbyn hyn, mae Alwen wedi rhoi'r gorau i dderbyn y sesiynau cwnsela ers blwyddyn.

"Dwi'n teimlo bo' fi di dwad yn ofnadwy o bell, fedra i ddelio efo diwrnod o 'mlaen i," eglura.

Er bod Alwen wedi dysgu byw gyda'i galar, mae'n dweud na fyddai hynny wedi bod yn bosib heb gynhaliaeth ei theulu; ei gŵr Jason a'i phlant Sophie a Carl.

Ffynhonnell y llun, Alwen Brierley Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Ei phlant, Sophie (chwith) a Carl (dde), eu partneriaid a'i hwyres Nansi "sy'n codi gwên y dyddiau hyn"

"Oeddan ni'n agos beth bynnag, ond maen nhw 'di nghario fi drwy hyn a dwi'n meddwl bod hynna wedi rhoi 'chydig bach o bwysa' arnyn nhw."

Mae hi hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth ei ffrindiau.

Dywed: "Ges i gefnogaeth anhygoel gan fy ffrindiau ac alla i ddim ond diolch o waelod calon am y rhai a fuodd yn glust ag ysgwydd cadarn a sydd dal yna i mi hyd heddiw."

Un sydd yn codi ei chalon y dyddiau hyn yw ei hwyres fydd yn ddyflwydd oed fis Rhagfyr, Nansi.

"Mae hi'n rhoi gwên ar fy wynab i, mae o'n gyfnod lle ti'n meddwl am ddim byd ond hi."

Nofio gwyllt yn gwneud lles

Dair blynedd yn ôl, dianc i Sir Fôn gyda'i theulu er mwyn osgoi ei phen-blwydd yn hanner cant wnaeth Alwen.

Eleni, mae wedi nodi ei phen-blwydd drwy nofio mewn llyn neu fôr dair gwaith yr wythnos trwy gydol fis Tachwedd er budd yr elusen wnaeth ei helpu i alaru.

Ffynhonnell y llun, Alwen Brierley Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Nofio yn Llyn Mair

Gyda'r wetsuit a'r drycoat y prynodd ei gŵr Jason iddi, mae Alwen wedi bod yn trochi mewn llynnoedd a thraethau lleol gan gynnwys Llyn Mair, a thraethau Morfa Bychan ac Aberech.

Mae nofio'n yr awyr agored yn gwneud iddi reoli ei anadlu, a thrwy hynny ei galar.

Ffynhonnell y llun, Alwen Brierley Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Perswadio ei gŵr Jason i fentro i'r môr ar wythnos olaf ei her

Eglura: "Pan es i mewn i'r dŵr am y tro cynta', mae o'n dwyn dy wynt di gymaint, roedd o'n atgoffa fi o'r hiraeth sy'n tynnu dy stumog di allan pan mae'n dod drosta chdi.

"Ond y mwya' dwi wedi mynd, dydi o ddim yn beth sy'n atgoffa fi o ddim byd drwg ddim mwy. Dwi'n dod o'r dŵr a dwi'n teimlo mor fodlon yndda i fy hun."

'Mae gen ti hawl i siarad'

Gobaith Alwen yw parhau i nofio yn yr awyr agored yn dilyn yr her.

"Pan dwi'n y dŵr dwi'm yn meddwl am ddim byd arall 'mond bo' fi yn y dŵr a rheoli'n anadl. Hefyd, ar ôl bod dwi'n teimlo adrenalin a dwi'n prowd."

Ffynhonnell y llun, Alwen Brierley Hughes
Disgrifiad o’r llun,

'Pan dwi'n y dŵr dwi'm yn meddwl am ddim byd arall'

Wrth feddwl beth fyddai ymateb ei mam a'i chwaer "unigryw" i'w her, dywed Alwen:

"Fedra i jest ddychmygu Anwen yn dweud wrtha i 'Talu chdi nôl am 'neud i fi 'neud yr ice bucket challenge yna, dos i'r mewn i'r dŵr yna!'. Dwi'n siŵr y basa Mam yn deud 'ti'm yn gall'," chwarddai wrth gofio'n annwyl am y ddwy.

Cyngor Alwen i unrhyw un sydd yn wynebu galar yw:

"Paid byth â stopio siarad amdanyn nhw achos mae nhw wedi bodoli. Siarada - dim ots be' ti'n ddeud - gwaedda, cria, cria yr hynny ti isio, achos mae gen ti'r hawl i 'neud."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig