Englyn i fam a merch a fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teulu mam a merch fu farw mewn gwrthdrawiad ger Garndolbenmaen wedi rhyddhau teyrnged iddyn nhw ar ffurf englyn.
Roedd Nancy Roberts, 84 oed, ac Anwen Mitchelmore, 59 oed, yn byw yn ardal Porthmadog.
Bu farw'r ddwy wedi i'w car Volkswagen Polo coch daro yn erbyn lori felen ychydig wedi 15:30 ar brynhawn dydd Mercher, 16 Gorffennaf.
Digwyddodd y ddamwain ar ffordd yr A487 rhwng Garndolbenmaen a Phenmorfa.
Dyma deyrnged y teulu, gafodd ei ryddhau drwy Heddlu Gogledd Cymru:
"I ddathlu bywyd mam a merch, dwy ffrind gora a gipwyd oddi arnom mor greulon, ond a fydd yn byw o hyd ymhob chwerthiniad, pob owns o gariad a phob dydd y buom mor lwcus i'w rhannu."
Mae'r deyrnged yn cynnwys yr englyn hwn:
Dwy wên sy'n aros eleni - dwy wên
dyner a fu'n gwmni
erioed; dwy'n eu direidi'n
rhannu winc i'n cario ni.
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad, ac yn gofyn i bobl ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod Y100773 os oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2020