Brymbo: Dyn, 63, wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Bu farw dyn 63 oed mewn gwrthdrawiad ffordd yn ardal Wrecsam dros y penwythnos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 22:30 nos Sadwrn ar ôl adroddiadau fod dyn wedi'i ganfod ar Heritage Way, Brymbo.

Fe gadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru fod y dyn lleol wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig