Urdd Gobaith Cymru 'werth £45m' i economi Cymru

  • Cyhoeddwyd
UrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Oes modd rhoi pris ar yr Urdd? Beth yw gwerth ariannol y mudiad i Gymru a'r Gymraeg? Beth yw gwerth economaidd Llangrannog a Glan-llyn i Geredigion a Gwynedd?

Mewn ymgais i ateb y cwestiynau yma mae'r Urdd wedi comisiynu ymchwil annibynnol sy'n dod i'r casgliad bod Urdd Gobaith Cymru werth hyd at £45m i economi'n gwlad y llynedd.

Wedi dathlu'r ganrif oed bellach, mae'r mudiad yn un o gyflogwyr Cymraeg mwya'r trydydd sector a'u gwaith yn pontio diwylliant, addysg, chwaraeon a lles.

Mae'r Urdd yn cyflogi 362 o staff ar draws y wlad.

Cynnydd o 76%

Pan gafodd asesiad tebyg ei gynnal diwethaf, bum mlynedd yn ôl yn 2018, gwerth economaidd yr Urdd oedd £25.5m.

Yn ôl cwmni ymchwil Arad, mae'r ffigwr yma wedi codi i £44.9m, sef cynnydd o 76%.

Yn yr un cyfnod mae trosiant yr Urdd wedi dringo o £10.2m i £19.6m.

Dadl yr ymchwil yw bod gwariant uniongyrchol ac anuniongyrchol yr Urdd o £26m yn arwain at "ysgogiad economaidd" gwerth £18.9m i economi Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Siân Lewis fod yr ymchwil "yn profi ein bod yn mynd uwchlaw ein hamcanion"

Yn ôl prif weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, maen nhw'n "hynod falch o'r ffigyrau".

"Nod yr Urdd yw sicrhau profiadau a gweithgareddau drwy'r Gymraeg i ieuenctid Cymru, ond mae'r adroddiad yma yn profi ein bod yn mynd uwchlaw ein hamcanion drwy greu swyddi a chyfoeth i economi Cymru," meddai.

Ychwanegodd fod "gwerth economaidd o £44.9m yn dangos y gall sefydliad trydydd sector sy'n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg lwyddo i greu effaith economaidd ynghyd â dylanwad cadarnhaol ar yr iaith".

Ond yn ogystal â'r penawdau cenedlaethol, mae'r adroddiad yma'n edrych yn fanylach ar wariant yr Urdd - ar nwyddau, gwasanaethau a chyflogau staff - ac yn mynd ati i amcangyfrif gwerth economaidd adrannau unigol y mudiad yn genedlaethol ac ar lefel leol.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwersylloedd yr urdd yn cyfrannu £7.9m i'w hardaloedd, yn ôl yr ymchwil

Mae Gwersylloedd Llangrannog, Glan-llyn, a Chaerdydd medd yr adroddiad, werth cyfanswm o £7.9m i'w hardaloedd.

£3.2m yng Ngheredigion, £3.2m yng Ngwynedd a £1.4m yng Nghaerdydd, gyda gweithgareddau chwaraeon y mudiad werth £6.1m ar draws Cymru.

Ehangu prentisiaethau

Maes arall lle mae'r Urdd wedi ehangu yw drwy gynnig prentisiaethau o fewn sectorau fel chwaraeon mewn addysg, gofal plant a gwaith ieuenctid.

Ers 2016 mae dros ddwy ran o dair (67%) o'r 434 ddechreuodd ar brentisiaeth wedi cwblhau'r cyfnod, ac mae 10% o'r rheiny yn cael eu cyflogi gan y mudiad.

Un o'r rheiny yw Rhodd Alaw. Ymunodd ar brentisiaeth yn 18 oed, ac mae bellach wedi dringo i fod yn uwch swyddog datblygu chwaraeon.

Dywedodd nad oedd prifysgol yn ei denu, na chwaith y "ddyled wedyn".

Yn ôl Rhodd mae wedi cael profiadau a chyfleoedd gwych yn barod, ac yn cytuno na fyddai hi yr un person heb y mudiad.

"Mae'n amhrisiadwy i Gymru. Does dim mudiad o'i fath yn unman. Mae Cymru'n lwcus iawn o gael yr Urdd se' ni'n dweud," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhodd Alaw fod yr Urdd yn "amhrisiadwy i Gymru"

Mae'r dull o amcangyfrif gwerth economaidd yr Urdd yn seiliedig ar gysyniad effaith lluosydd Keynesaidd - dull sydd wedi mynd mewn a mas o ffasiwn dros y blynyddoedd.

Enghraifft o hyn yw'r dadansoddiad bod pob £1 sy'n cael ei gwario'n Eisteddfod yr Urdd, meddai'r ymchwil, yr arwain at £6.96 o werth economaidd.

Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y "ffigyrau gwerth economaidd... yn adlewyrchu'r effaith economaidd uchaf y mae'n debygol y byddai'n deillio o gyfraniadau'r Urdd i'r economi".

Cefnogaeth Llywodraeth Cymru

Mae'r Urdd yn derbyn grantiau sylweddol gan Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol a sefydliadau eraill.

Ers 2016 mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfanswm o £23.4m i'r mudiad yn uniongyrchol, a channoedd o filoedd o bunnoedd yn anuniongyrchol drwy Chwaraeon Cymru a chynlluniau fel Gaeaf Llawn Lles.

Mewn datganiad diolchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething i'r Urdd "am eu cyfraniad at economi Cymru ers dros ganrif".

"Mae eu hymdrechion yn cefnogi ein huchelgais tuag at Gymru decach, wyrddach, a mwy llewyrchus - ac mae'r Gymraeg wrth wraidd popeth maen nhw'n ei wneud," meddai.

Ychwanegodd Siân Lewis: "Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, rydym yn gwerthfawrogi bod angen i bob sefydliad sy'n derbyn arian cyhoeddus ddangos gwerth am arian ac rwy'n falch bod yr adroddiad hwn yn dangos yn glir ein heffaith ar Gymru."