Targed £40,000 yr Urdd i dalu am wyliau i 250 o blant

  • Cyhoeddwyd
Plant yn mwynhau yn LlangrannogFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad y gronfa yw cynnig gwyliau i 250 o blant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi neu dan amgylchiadau heriol

Gydag ystadegau yn dangos fod 30% o blant Cymru bellach yn byw mewn tlodi, mae'r Urdd wedi ail-lansio apêl i geisio cynnig gwyliau i rai o blant a phobl ifanc mwyaf difreintiedig Cymru.

Mae'r mudiad yn galw ar unigolion, cwmnïau a chymdeithasau i gyfrannu er mwyn cynnig gwyliau i 250 o blant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi neu dan amgylchiadau heriol, gan ddyblu'r nifer sydd wedi elwa eleni.

Ers 2019 mae 'Cyfle i Bawb - Cronfa Gwersyll Haf yr Urdd' wedi galluogi i gannoedd o blant i fwynhau gwyliau yng ngwersylloedd yr Urdd, ond ar ôl derbyn y mwyaf erioed o geisiadau yn 2023 mae'r targed bellach wedi cynyddu.

Yn ôl yr Urdd byddai nawdd o £180 yn cyfrannu at gost gwyliau i un plentyn yng Nglan-llyn, Llangrannog, Pentre Ifan neu Caerdydd.

'Blaguro o flaen ein llygaid ni'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog, fod 100 o blant wedi cael lle eleni drwy'r gronfa.

"Mae'n brofiad hollbwysig i bob plentyn gael yn ystod eu plentyndod, boed nhw'n naw oed neu 16 oed, mae'r profiadau mae un yn cael yn ein gwersylloedd haf ni heb ei ail.

"Mae'n hollbwysig fod pawb yn cael y cyfle i fynychu un cyfnod o leia' o'n gwersylloedd haf ni."

Disgrifiad o’r llun,

Lowri Jones: "Fi'n teimlo bod yr Urdd yn awchu i sicrhau fod cyfle i bawb fynychu gwersyll haf"

Ychwanegodd mai'r gobaith yw mwy na dyblu'r nifer sy'n elwa o'r cynllun ar gyfer 2024, ond bydd yn golygu casglu bron i £40,000.

"Fi'n siwr bydde athrawon a gweithwyr cymdeithasol ar draws Cymru'n dweud bod y sefyllfa mae rhai plant yn byw ynddi yn dorcalonnus a fi'n teimlo bod yr Urdd yn awchu i sicrhau fod cyfle i bawb fynychu gwersyll haf.

"Ni'n gweld nhw'n blaguro o flaen ein llygaid ni, mae cymaint o straeon allaf adrodd o'r cyfnodau gwersylloedd haf.

"Fi'n cofio un ferch yn benodol yn dod 'ma yn dioddef yn ofnadwy o bryder cymdeithasol a o'n i ddim yn siwr bydde hi'n gallu aros ac yn amlwg roedd hi'n hiraethu, ond roedd bod yma yng nghanol y bwrlwm a'r gweithgareddau - mi wnaeth hi newid ei ffordd a dod dros ei chyflwr yn go glou a bwrw mlaen.

"Doedd ei rhieni yn ffili credu'r gwahaniaeth ynddi yn gadael ar y dydd Gwener, a fydd hwnna'n aros yn y cof am byth.

Disgrifiad o’r llun,

Canŵs ar lan Llyn Tegid yng ngwersyll Glan-llyn, Y Bala

"Mae cymaint o straeon gwahanol o weld plant yn newid a magu hyder, dyna'r peth sy'n aros gyda fi a chreu ffrindiau newydd, clywed acenion gwahanol ar draws Cymru.

"Mae'n rhywbeth mor syml ond mor bwysig yn y byd sydd ohoni heddi, bod rhywun yn gallu gadael rhywle wedi gwneud ffrind newydd."

'Cyfleoedd anhygoel'

Yn ôl un rhiant, Cerian Rolls o Aberdâr, dim ond drwy'r gronfa yr oedd hi'n bosib i'w mab fynychu ei gwrs preswyl cyntaf erioed.

"Cafodd yr amser gorau, gwnaeth llawer o ffrindiau newydd, ac mae eisoes wedi gofyn am gael mynd yn ôl y flwyddyn nesaf," meddai.

"Diolch am roi'r cyfleoedd anhygoel yma iddo."

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: "Rydym wedi mwy na dyblu ein targed ar gyfer 2024 er mwyn cynnig gwyliau i 250 o blant a phobl ifanc na fyddai'n cael cyfle i fwynhau gwyliau haf fel arall.

"Fel sefydliad ieuenctid cenedlaethol rydym yn gyson chwilio am ffyrdd i sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli cyfle."

Bydd modd i rieni neu ysgolion wneud cais am wyliau ar ran plentyn yn fuan yn 2024.

Pynciau cysylltiedig