Galw am ddatganoli carchardai 'gorlawn, llawn problemau'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae "rhywbeth sylfaenol o'i le" meddai Liz Saville Roberts AS

Dylai carchardai Cymru, sy'n "llawn problemau", ddod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd, medd AS Plaid Cymru.

Mae AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi cyflwyno dadl o blaid datganoli'r system gyfiawnder ger bron Aelodau Seneddol ar lawr Tŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.

Fe fyddai datganoli yn gymorth i ddelio gyda charchardai "gorlawn", lle mae cyfradd uchel o gyffuriau a hunanladdiadau, meddai.

Mae'r Gwasanaeth Carchardai yn dweud bod y "ffigyrau a'r arolygon diweddaraf yn dangos bod carchardai Cymru yn perfformio'n dda".

Gan ddefnyddio gwaith ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd bu Ms Saville Roberts, llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder, yn dweud wrth aelodau eraill bod system cyfiawnder troseddol Cymru yn perfformio'n llawer gwaeth nag un Lloegr.

Fe ddangosodd yr ymchwil, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, bod nifer y rhai sy'n cysgu ar y stryd wedi iddyn nhw ddod allan o'r carchar wedi treblu mewn cyfnod o bron i flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Liz Saville Roberts AS gyflwyno'r ddadl o blaid datganoli'r system gyfiawnder ar lawr Tŷ'r Cyffredin ddydd Mercher

Nodwyd hefyd bod mwy o garcharorion yng Nghymru ar gyfartaledd nag yng ngweddill gwledydd y DU - 177 ymhob 100,000 o bobl.

Cyfartaledd Lloegr a'r Alban yw 146 ac mae'r cyfartaledd yng Ngogledd Iwerddon yn 100.

'Carcharorion o Loegr'

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mercher dywedodd Ms Saville Roberts: "Un o'r ffigyrau mwyaf brawychus sydd wedi ymddangos o 2022 ydi'r ffigyrau yma sef bod nifer y carcharorion o Gymru sy'n cael eu rhyddhau heb do dros eu pennau.

"Dwi'n gwybod am enghreifftiau o bobl yn byw mewn pebyll, yn byw mewn faniau neu geir a bod y nifer yna wedi treblu mewn blwyddyn, ac mae hynny yn fy mhryderu."

Dywedodd hefyd bod y ffaith bod Cymru yn anfon mwy o bobl i garchardai nag unrhyw wlad arall yn y DU a gorllewin Ewrop yn bryder pellach.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Liz Saville Roberts fod carcharorion sydd wedi'u rhyddhau yn byw mewn faniau a cheir, a bod hynny'n ei phoeni

"Dwi'n dadlau dros ddatganoli cyfiawnder gan fod o'n rhoi Cymru yn yr un sefyllfa â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig," meddai.

"Mae gan Ogledd Iwerddon raddfa isel yn eu carchardai ac mae'n cael ei reoli yno.

"Yng Nghymru ar gyfartaledd yn 2022, roedd dros 5,000 o bobl yn ein carchardai ond llawer iawn ohonyn nhw o Loegr.

"Pam bod Cymru yn cael y problemau yma o garcharorion o Loegr yn dod yma, ond hefyd ddim y modd i edrych ar ôl y rhai fydd yn dod yn ôl i'n cymunedau?"

'Methiant llwyr'

Ychwanegodd: "Mi oedd Carchar Berwyn yn Wrecsam, er enghraifft, i fod i gynnwys carcharorion o ogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, ond fel ma'n digwydd mae 'na garcharorion o 75 o awdurdodau lleol yno a 62% o'r carcharorion o Loegr.

"Os bydd pobl yn cael eu hanfon i garchar, ac yn bell o adra, mae hyn yn cynyddu'r broblem ddigartrefedd o bobl yn methu cael cartref yn yr ardal honno.

"I mi mae hyn yn fethiant llwyr, ddim yn dda i gymuned, ddim yn dda i gyn-garcharorion bod nhw yn aros mewn pebyll neu faniau. Mae rhywbeth sylfaenol o'i le."

Fe wnaeth i Ms Saville Roberts hefyd gyfeirio at y ffaith nad oes carchar i fenywod ar gael yng Nghymru a bod disgwyl i awdurdodau lleol ariannu gwasanaethau cyhoeddus i garcharorion - er enghraifft, gofal iechyd - er nad oes ganddynt bwerau am y system gyfiawnder.

Yn y gorffennol mae Llywodraeth y DU wedi dadlau y byddai datganoli'r system gyfiawnder yn amharu ar wasanaethau plismona a llysoedd trawsffiniol.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Tan 2017 roedd yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd yn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr

Yn 2017 fe wnaeth Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd gadeirio comisiwn annibynnol ar y mater, a'r farn oedd y dylai Cymru fod â chyfrifoldeb lwyr am y system gyfiawnder ac mai mater i Lywodraeth Cymru oedd plismona, carchardai a phenodi barnwyr.

Dyw llywodraeth Geidwadol San Steffan ddim wedi ystyried yr argymhellion ond mae'r Blaid Lafur wedi awgrymu y bydden nhw'n datganoli rhai agweddau o'r system gyfiawnder i Gaerdydd - yn eu plith cyfiawnder plant.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: "Mae'r ffigyrau a'r arolygon diweddaraf yn dangos bod carchardai Cymru yn perfformio'n dda ac ry'n ni ar fin cyflwyno y rhaglen ehangu fwyaf ers cyfnod Oes Fictoria - gan greu 20,000 yn fwy o lefydd modern i adsefydlu troseddwyr a gostwng troseddu.

"Mae 100 o swyddogion yn fwy yn gweithio i wasanaeth carchardai Cymru yn y flwyddyn hyd at 30 Medi 2023.

"Ry'n ni hefyd yn buddsoddi miliynau ar ddarparu llety dros dro i'r rhai sy'n fwyaf tebygol o fod yn ddigartref wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau er mwyn iddyn nhw gael trefn ar eu bywyd."