Powys: Dynes 87 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Ardal y gwrthdrawiad ym mhentref TreberfeddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger parc carafanau ar gyrion pentref Treberfedd

Mae dynes oedrannus wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad tri cherbyd ym Mhowys.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A458 rhwng Y Trallwng a phentref Treberfedd ychydig ar ôl 07:30 ddydd Llun 27 Tachwedd.

Roedd car Honda Civic glas a bws gwyn yn teithio i gyfeiriad Yr Amwythig, a char Ford Fiesta coch tywyll yn teithio tua'r Trallwng pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger Parc Carafanau Bank Farm.

Fe gafodd gyrrwr 87 oed, a oedd yn teithio ar ben i hun yn y Fiesta, anafiadau difrifol a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach ddydd Llun.

Bu'n rhaid cludo gyrrwr yr Honda i'r ysbyty hefyd. Doedd dim teithwyr ar y bws a ni chafodd y gyrrwr anaf.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un all fod o gymorth i'w hymchwiliad.

Maen nhw'n arbennig o awyddus i glywed gan unrhyw un all gynnig lluniau dashcam, cloch drws neu CCTV ar hyd yr A483 rhwng Y Drenewydd a'r Trallwng, a'r A458 rhwng Y Trallwng a'r parc carafanau, all fod wedi cofnodi taith yr Honda Civic glas rhwng 07:00 a 07:30.

Pynciau cysylltiedig