Sefydliad Bevan: ASau yn hawlio £6,500 ar gyfer tanysgrifiad

  • Cyhoeddwyd
Aneurin BevanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sefydliad Bevan yn cael ei enw oddi wrth Aneurin Bevan, sylfaenydd y gwasanaeth iechyd

Mae 13 Aelod o'r Senedd - gan gynnwys pump o weinidogion Llywodraeth Cymru - wedi defnyddio arian cyhoeddus i dalu am danysgrifiad blynyddol i felin drafod.

Mae 10 AS Llafur, dau o Blaid Cymru ac un o'r Ceidwadwyr wedi defnyddio cyfanswm o £6,495 o arian cyhoeddus i danysgrifio i Sefydliad Bevan.

Mae gan ASau eisoes wasanaeth ymchwil y Senedd tra bod gweinidogion yn cael eu cynghori gan wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru.

Dywed Sefydliad Bevan fod eu canfyddiadau'n cael eu dyfynnu'n aml yn nadleuon y Senedd.

Nid oes unrhyw awgrym bod yr ASau wedi torri unrhyw reolau.

Mae grŵp Plaid Lafur y Senedd yn dweud bod y tanysgrifiadau'n "helpu i lywio" gwaith seneddol ac etholaethol, tra bod Plaid Cymru yn dweud bod gwaith y sefydliad "ar dlodi a gofal plant yn hynod o ddefnyddiol i Blaid Cymru a'u staff".

Dywedodd cyn-sylwebydd gwleidyddol ITV, Gareth Hughes: "Mae i fyny i'r Aelodau o'r Senedd be maen nhw'n tanysgrifio iddo, ond dylen nhw dalu amdano eu hunain nid hawlio gan y trethdalwr."

'Dylanwadol'

Dywed Sefydliad Bevan, sydd wedi'u lleoli ym Merthyr Tudful, eu bod yn anelu at "greu mewnwelediadau, syniadau ac effaith sy'n rhoi diwedd ar dlodi ac anghydraddoldeb".

Maen nhw'n disgrifio eu hunain fel "melin drafod mwyaf dylanwadol Cymru" ac mae tanysgrifwyr yn derbyn "manteision unigryw" gan gynnwys "y ffeithiau a'r ffigyrau diweddaraf yn ein briffiau rheolaidd ar Gyflwr Cymru", copi o'u cylchgrawn, a "gwahoddiad i gymryd rhan yn ein trafodaethau bwrdd crwn amserol".

Disgrifiad o’r llun,

Dr Victoria Winckler yw cyfarwyddwr Sefydliad Bevan

Y gost flynyddol yw £528 gan gynnwys treth ar werth (nid yw Comisiwn y Senedd yn adennill y TAW gan Gyllid a Thollau), er bod rhai aelodau o'r Senedd wedi hawlio am gyfnod bil ychydig yn fyrrach eleni.

Mae gan ASau eisoes fynediad at wasanaeth ymchwil y Senedd, sy'n rhoi atebion cyfrinachol iddynt i gwestiynau sy'n ymwneud â'u gwaith, llyfrgell o gyhoeddiadau ac adnoddau electronig yn ogystal â briffiau polisi a chyngor ar gyllid cyhoeddus, cyllidebau ac ystadegau.

Ymhlith yr ASau Llafur sy'n defnyddio arian cyhoeddus ar gyfer eu tanysgrifiad presennol mae uwch gynghorydd cyfreithiol Cymru, y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw; Dawn Bowden y dirprwy weinidog dros y celfyddydau, chwaraeon a thwristiaeth; gweinidog yr economi Vaughan Gething, gweinidog y Gymraeg ac addysg Jeremy Miles a'r gweinidog iechyd Eluned Morgan.

Yr ASau Llafur eraill i wneud hynny oedd Mike Hedges, Hefin David, Vikki Howells, Jenny Rathbone a Joyce Watson.

Mae cyn-ddirprwy arweinydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian yn un o ddau Aelod o'r Senedd o'r blaid sy'n hawlio'r tanysgrifiad; y llall oedd Sioned Williams.

Yr unig danysgrifiwr Ceidwadol i ddefnyddio arian cyhoeddus yw Mark Isherwood, sy'n cynrychioli gogledd Cymru ac yn cadeirio pwyllgor cyfrifon cyhoeddus a gweinyddiaeth gyhoeddus y Senedd.

Cafodd y Ceidwadwyr Cymreig a Mr Isherwood gais am sylw.

'Casineb'

Mae Sefydliad Bevan yn cymryd ei enw oddi wrth Aneurin Bevan, sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, "oherwydd ymrwymiad ar y cyd i gyfiawnder cymdeithasol, er bod y Sefydliad yn gadarn amhleidiol" meddai.

Yn ystod araith adeg creu'r GIG ym 1948, siaradodd Bevan, y gweinidog iechyd Llafur ar y pryd, am ei "gasineb tanbaid ddwfn" tuag at y blaid Geidwadol, gan ddweud eu bod "yn is na gwehilion".

Disgrifiad o’r llun,

Yr unig danysgrifiwr Ceidwadol i ddefnyddio arian cyhoeddus yw Mark Isherwood

Dywedodd Dr Victoria Winckler, sydd wedi bod yn gyfarwyddwr Sefydliad Bevan ers 2002: "Mae gan fwy na 100 o sefydliadau o lawer o wahanol fathau a meintiau danysgrifiad - rydym yn tybio oherwydd eu bod yn ei gael yn ddefnyddiol.

"Mae'n amlwg bod swyddi Aelodau o'r Senedd o bob plaid yn gweld tanysgrifiad o fudd i'w gwaith, fel y dangoswyd yn y nifer o weithiau y dyfynnir ein canfyddiadau yn nadleuon y Senedd.

"Fel gwasanaeth dewisol a brynwyd, a ganiateir gan Gomisiwn y Senedd, mae'n ddefnydd rhesymol o arian cyhoeddus yn ein barn ni."

Yn ogystal, hawliodd un AS Llafur £250 am aelodaeth o felin drafod y Sefydliad Materion Cymreig.

Caiff tâl a lwfansau'r Aelodau eu pennu gan Fwrdd Taliadau Annibynnol, a Chomisiwn y Senedd sy'n gweinyddu'r lwfansau a bennir gan y bwrdd.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd: "Mae'r bwrdd yn caniatáu i ASau hawlio costau rhesymol ar gyfer rhedeg swyddfa ac ymgysylltu ag etholwyr.

"Gellir defnyddio'r arian hwn ar gyfer ymchwil i ddatblygu polisi, archwilio materion i etholwyr, a chraffu ar bolisi, deddfwriaeth neu gyllid.

"Mae pob Aelod o'r Senedd yn penderfynu ar y ffordd orau o gyflawni eu dyletswyddau ac ar beth y dylid gwario eu lwfansau."

Dywedodd llefarydd ar ran grŵp Plaid Lafur y Senedd: "Mae'r tanysgrifiadau hyn wedi'u hawlio yn unol â rheolau'r Senedd ac wedi'u cymeradwyo gan Gomisiwn y Senedd.

"Mae'r tanysgrifiadau yn rhoi ymchwil i aelodau a'u staff ar ystod o faterion sy'n helpu i lywio eu gwaith seneddol ac etholaethol."

'Datblygu'r atebion'

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Blaenoriaeth Plaid Cymru yw rhoi diwedd ar dlodi yng Nghymru unwaith ac am byth.

"Mae gwaith manwl a threiddgar Sefydliad Bevan yn hanfodol er mwyn gallu datblygu'r atebion sydd ei angen er mwyn cyflawni'r uchelgais hwnnw.

"Mae costau swyddfa unigol rhai aelodau Plaid Cymru yn talu am danysgrifiad i waith Sefydliad Bevan gan fod gwaith y sefydliad yn allweddol er mwyn helpu ein haelodau i geisio gwella bywydau eu hetholwyr.

"Mae eu gwaith gwerthfawr ar dlodi a gofal plant yn hynod o ddefnyddiol i Blaid Cymru a'u staff wrth baratoi ar gyfer eu gwaith yn y Senedd."