'Mwg disel wedi cyfrannu at farwolaeth ein babi'
- Cyhoeddwyd

Bu farw Annie-Jo Mountcastle ar 17 Tachwedd 2017
Mae rhieni merch naw mis oed yn credu bod mwg disel yn ystod gwaith adeiladu yn Ysbyty Glan Clwyd wedi cyfrannu at ei marwolaeth, yn ôl crwner.
Cafodd y gwrandawiad diweddaraf cyn y cwest i farwolaeth Annie-Jo Mountcastle, a oedd yn efaill, ei gynnal yn Llys y Crwner Rhuthun.
Roedd hi wedi cael ei geni 12 wythnos yn gynnar yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ar 5 Chwefror 2017.
Cafodd ei rhyddhau o'r ysbyty ddiwedd Ebrill y flwyddyn honno, ond bu farw yn ei chartref yn Llanfair Talhaearn yn Sir Conwy y mis Tachwedd canlynol.

Cafodd Annie-Jo Mountcastle ei geni 12 wythnos yn gynnar
Yn ystod y gwrandawiad ddydd Iau dywedodd y crwner John Gittins ei bod yn deg ystyried cwestiwn a holwyd gan fargyfreithiwr y teulu, sef a oedd yr incubator yr oedd Annie-Jo ynddo yn rhwystro unrhyw ollyngiadau, neu yn gwaethygu'r broblem drwy gadw'r mwg (fumes) oddi fewn.
Gofynnodd hefyd i gynrychiolydd cyfreithiol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â'r honiadau bod rhieni Annie-Jo wedi gofyn i staff gau'r ffenestri ar fwy nag un achlysur.
Cafodd y gwrandawiad ei ohirio nes bod datganiadau pellach yn dod i law.
Y gobaith, yn ôl y crwner, yw cynnal y cwest llawn ganol flwyddyn nesaf os yw'r tystion arbenigol ar gael.